Mae pâr o esgidiau unigryw ar gael yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon.

Mae’r pâr o esgidiau rhedeg Adidas yn dathlu’r Eisteddfod yn dod i Bontypridd yn Rhondda Cynon Taf.

Mae’r brand dillad Cymreig Spirit of ’58 wedi cydweithio â Wrexham Trainer Revival i greu’r trainers eiconig yma.

Mae ‘Rhondda Cymru’ wedi’i argraffu ar un ochr, a darlun o’r ddraig ar yr ochr arall.

Bydd yr esgidiau yn cael eu gwerthu mewn ocsiwn ar faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd yr wythnos hon.

Bydd yr arian sy’n cael ei godi yn cael ei roi i elusen ASD Rainbows Rhondda Cynon Taf, sy’n darparu gwasanaethau arbenigol i blant awtistig yr ardal.

Mae mwy o wybodaeth ar stondin Spirit of ’58 yn yr Eisteddfod.