Cafodd y cynhyrchydd teledu Branwen Cennard ei magu yn Nhreorci yn Rhondda Cynon Taf. Symudodd hi i Aberystwyth er mwyn astudio yn y brifysgol, ac yna i Fangor er mwyn gweithio yn y BBC.
Mae Branwen Cennard yn fwyaf adnabyddus am ei gwaith yn gynhyrchydd ar y cyfresi Iechyd Da, Byw Celwydd a Teulu. Er ei bod hi wedi teithio’r wlad ar gyfer ei gwaith, dychwelodd hi i fyw i Dreorci yn 1988, a dyna lle mae hi’n byw heddiw.
“Mae’r ardal yn golygu popeth i fi, ac er mod i wedi treulio llawer o amser yn teithio ac yn gweithio mewn ardaloedd eraill o Gymru, o Aberdaron i Aberaeron, dwi’n gwybod yn reddfol, i ddyfynnu Meirion MacIntyre Huws, “mai yma wyf innau i fod”.
Yr hyn sy’n ei chadw hi yn Nhreorci a’r Cymoedd yw ei theulu, meddai, “a’r ymdeimlad cryf ’mod i’n perthyn fan hyn”.
Nid yn unig mae hi’n teimlo’i bod hi’n perthyn i’r ardal, ond hefyd ei bod hi’n rhan o gymuned yn y Cymoedd.
“Dwi’n sicr yn teimlo mod i’n perthyn, ac yn fwy prysur nag erioed yn cydweithio gyda chriw ysbrydoledig o bobol lawer iau na fi sydd, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi sefydlu Eisteddfod y Rhondda a Gŵyl Mabon – dau ddigwyddiad blynyddol sy’n cyfrannu’n fawr at godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg yn yr ardal hon,” meddai.
Tirwedd y Cymoedd
Mae hi’n grediniol mai’r bobol a’r dirwedd yw’r pethau gorau am y Cymoedd. Dywed fod y dirwedd “lawer gwyrddach a harddach nawr na phan o’n i’n blentyn”.
Mae hi’n bendant ei barn am le ddylai pobol fynd i gael blas ar y Cymoedd.
“Copa Pen Pych, er mwyn gweld rhan ucha’r Rhondda Fawr yn ei holl ogoniant,” meddai.
Er ei chariad at yr ardal, mae un peth y byddai hi’n yn hoff iawn o’i weld yn newid – y sefyllfa economaidd.
“Yn hanesyddol, mae’r Cymoedd wedi cyfrannu’n helaeth i economi Cymru a Phrydain dros y canrifoedd,” meddai.
“Ond mae angen dybryd am fuddsoddi dychmygus yma nawr, fel bod pobol ifanc yn arbennig yn gallu adeiladu dyfodol iddyn nhw eu hunain ac i’w plant heb orfod gadael eu cymuned.”
Gobaith am y dyfodol
Dywed Branwen Cennard fod y Gymraeg yn golygu “popeth” iddi.
“Y Gymraeg yw fy mamiaith,” meddai. “Dw i’n meddwl yn Gymraeg, yn breuddwydio yn Gymraeg, mi ges i fy addysg i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg, a dw i wedi bod yn ddigon ffodus i dreulio ‘ngyrfa i gyd, fwy neu lai, yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Mae ei chariad at y Gymraeg yn mynd yn ôl i’w harddegau, ac wedi aros gyda hi drwy gydol ei bywyd, ac mae hi’n obeithiol am ddyfodol yr iaith yn ei hardal.
“Pan o’n i yn fy arddegau, ro’n i’n gorfod dal bws i Rydfelen er mwyn derbyn addysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai.
“O ganlyniad i hynny, roedd fy nghylch ffrindiau yn eang iawn yn ddaearyddol, ac roedd yn rhaid teithio i Gasnewydd, Bedwas, Aberdâr, Caerffili, er mwyn cymdeithasu drwy gyfrwng yr iaith.
“Gyda dyfodiad Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, fe newidiodd y sefyllfa er gwell, gan alluogi pobol ifanc i gymdeithasu yn eu cymunedau. Mae hynny wedi bod yn hwb i lawer mwy ohonyn nhw i aros yma, sydd yn amlwg yn beth da.
“Mewn arolwg rai blynyddoedd yn ôl, darganfuwyd bod rhywun yn siarad Cymraeg yn y rhan fwyaf o siopau Treorci, sy’n ffaith ryfeddol!
“Felly mae’r Gymraeg, erbyn hyn, yn rhan annatod o’m bywyd o safbwynt y teulu, o safbwynt fy ngwaith ac yn gymdeithasol.”