Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn amlinellu sut maen nhw wedi llwyddo i sicrhau Eisteddfod hygyrch i bawb yn Rhondda Cynon Taf.

Mae miloedd o bobol o bell ac agos wedi heidio i’r Maes yn ystod dyddiau cynta’r Eisteddfod Genedlaethol, ac mae disgwyl miloedd yn rhagor cyn diwedd yr wythnos.

Mae’r Eisteddfod wedi dychwelyd i’r ardal am y tro cyntaf ers bron i 70 mlynedd, ac mae brwdfrydedd y bobol wedi rhagori ar obeithion a disgwyliadau’r trefnwyr.

Mae codwyr arian wedi codi dros £330,000 drwy gynnal dwsinau o ddigwyddiadau cymunedol, sydd wedi arwain at godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a’r defnydd ohoni.

Mae’r cynllun tocynnau am ddim i deuluoedd cymwys, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, wedi bod yn gymorth i sicrhau bod yr Eisteddfod yn ŵyl i bawb hefyd.

Cyhoeddi cynlluniau gwirfoddoli i annog rhagor o unigolion i weithio gyda’r Eisteddfod

Dywed Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, ei bod yn bwysig eu bod nhw’n “adlewyrchu’r Gymru gyfoes ym mhob elfen o’n gwaith”.

“Heddiw, rydyn ni’n cyhoeddi ein cynlluniau gwirfoddoli i annog rhagor o unigolion i weithio gyda ni ar wahanol brosiectau gwirfoddoli drwy gydol y flwyddyn,” meddai.

Mae’r Eisteddfod am weithio gyda grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli er mwyn annog gwirfoddolwyr newydd, ac ar hyn o bryd maen nhw’n “mapio’r cyfleoedd sydd ar gael” ar draws eu prosiectau, a’r ŵyl ei hun, gan gynnwys panelau canolog.

Mae’r Eisteddfod eisoes wedi cymryd camau i sicrhau bod eu rhaglenni artistig yn adlewyrchu’r gymdeithas yng Nghymru.

Mae partneriaethau gyda sefydliadau fel Tŷ Cerdd wedi galluogi prosiectau fel ‘Codi Cân’, sy’n meithrin a datblygu unigolion, gan gynnig cyfleoedd iddyn nhw berfformio yn yr Eisteddfod, a hynny yn aml am y tro cyntaf yn y Gymraeg.

Dywed Betsan Moses eu bod nhw’n “gweithio gydag artistiaid fel Eadyth dros gyfnod o flynyddoedd, yn cynnig cyfleoedd datblygu a mentora, ar brosiectau megis y rhwydwaith byd eang ar gyfer cynhyrchwyr cerddoriaeth benywaidd”.

Hefyd, mae’r Eisteddfod wedi cyflwyno cystadleuaeth dorfol newydd er mwyn ceisio annog corau newydd i ffurfio, neu ail-ffurfio a chymryd rhan yn yr ŵyl.

“Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn datblygu cynllun i hyrwyddo hon gyda grwpiau a chymdeithasau o gymunedau sydd wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd,” meddai.

“Y gobaith yw y byddwn yn gweld corau newydd o gefndiroedd amrywiol yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon ac eraill yn 2025.”

Adlewyrchu’r Gymru gyfoes

Dywed Ashok Ahir, Llywydd yr Eisteddfod a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli, eu bod nhw’n “credu’n gryf mewn Eisteddfod gynhwysol sy’n creu a chynnig cyfleoedd i bawb fod yn rhan o bob elfen” o’u gwaith.

“Drwy gyhoeddi y byddwn ni’n cydweithio gyda nifer o gyrff a sefydliadau i gyrraedd cymunedau a grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli yn ein gwaith ar hyn o bryd, rydyn ni’n ceisio sicrhau bod elfen arall eto o’n gwaith yn apelgar a chroesawgar i bawb,” meddai.

“Mae’n hollbwysig ein bod ni, fel prifwyl Cymru, yn adlewyrchu’r Gymru gyfoes ym mhob elfen o’n gwaith, ac rydyn ni’n awyddus i gydweithio a chreu phartneriaethu gydag eraill i’n helpu i gyrraedd y nod.”