Mae’n draddodiad i ni’r Cymry ganu’r anthem genedlaethol ar ddiwedd achlysuron arbennig, ond eleni bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn mentro cloi’r Brifwyl gyda detholiad o gampwaith cerddorol sy’n dehongli’r anthem o’r newydd.

O dan arweiniad y cyfansoddwr Eilir Owen Griffiths, perfformiad anthemig yw ‘Gwlad Gwlad’ i ddathlu campwaith Evan a James James, y tad a’r mab o Bontypridd oedd wedi cyfansoddi ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.

I gloi’r wythnos yn y Pafiliwn ar faes Rhondda Cynon Taf, bydd ensemble o gantorion, oll yn gyn-enillwyr, yn ymuno â grŵp siambr o Sinffonia Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru i ganu geiriau beirdd lleol – Aneirin Karadog, Delwyn Siôn, Christine James a Mari George.

Mae’r ensemble yn cynnwys Cai Fôn, Celyn Cartwright, Gwïon Morris Jones, Meinir Wyn Roberts, Llinos Haf Jones, Eirlys Myfanwy, Meilir Jones a Huw Aeron, fydd yn canu’n unigol hefyd.

Bydd Cai Fôn, Celyn Cartwright a Gwïon Morris Jones hefyd yn adrodd yn ystod ‘Gwlad Gwlad!’.

‘Anthem sy’n cynhyrfu’r gwaed’

Dywed Eilir Owen Griffiths ei fod yn gobeithio y bydd y gynulleidfa’n sefyll ar ei thraed ac yn ymuno â’r gerddorfa a’r cantorion i gyd-ganu gosodiad newydd o ‘Hen Wlad fy Nhadau’.

“Mae gennym ni anthem sy’n cynhyrfu’r gwaed, mae gyda’r gorau yn y byd ac mae ei chanu wastad yn angerddol,” meddai.

“Mae’r gwaith newydd yma’n ceisio ail-greu’r cynnwrf gydag adrannau rhythmig sy’n gwthio’r lleisiau.”

Aeth Eilir Owen Griffiths ati i gyfansoddi’r gerddoriaeth i’w gosod i gerddi comisiwn gan y beirdd sydd wedi’u hysbrydoli gan yr anthem genedlaethol.

Dywed fod y “beirdd wedi dewis un gair a chanolbwyntio ar eu cerddi ar hynny”.

Mae Mari George wedi dewis y gair ‘Rhyddid’, ac mae ei cherdd yn sôn am bwysigrwydd sefyll ar ein pen ein hunain.

Mae’r gerddoriaeth honno’n werinol ac anthemig.

Mae Aneirin Karadog, ar y llaw arall, wedi canolbwyntio ar y gair ‘Bydded’ a chaiff y gair ei ailadrodd drosodd a throsodd, ac mae’r gerddoriaeth yn ffanfferig.

Mae Christine James yn ein hatgoffa bod ’mamau’ hefyd yn bwysig, ac yn trafod ystod o fenywod gan gynnwys Shirley Bassey a’r Dywysoges Gwenllian.

‘Gwlad’ yw’r gair gafodd ei ddewis gan Delwyn Siôn, ac roedd yn gyfle i fynd nôl i fyd yr alawon gwerin a’r chwedlau.

Mae’r gerddoriaeth wedyn yn arwain yn uniongyrchol at yr anthem.

Er bod Eilir Owen Griffiths wedi aildrefnu’r anthem, nid fersiwn newydd mo hon.

“Y gobaith yw fy mod i wedi adeiladu ar yr hyn sy’n bodoli’n barod gyda harmonïau newydd,” meddai.

Mae ganddo fe dros ugain mlynedd o brofiad yn y diwydiant cerddoriaeth, ac mae’n hen law ar arwain corau fel CF1 a Chôr Godre’r Garth, ac yn gynharach eleni fe gafodd e lwyddiant yng nghystadleuaeth Côr Cymru gyda Chôr Ifor Bach.

  • Bydd ‘Gwlad Gwlad!’ yn dechrau yn y Pafiliwn am 7:30 nos Sadwrn, Awst 10, gan gloi Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.