Bydd Gŵyl Jazz Aberhonddu yn dathlu deugain mlynedd eleni, ac i ddathlu’r cyfan bydd tri phenwythnos llawn o hwyl a cherddoriaeth i’w mwynhau.

Er bod yr ŵyl eisoes wedi cychwyn ddydd Sul (Awst 4), bydd penwythnos Awst 9-11 yn canolbwyntio ar galon cerddoriaeth jazz, gydag artistiaid lleol a rhyngwladol yn perfformio, gan gynnwys Dionne Bennett a Zach Breskal.

Un fydd yn perfformio yn yr ŵyl yw Kat Rees, a hynny ddydd Gwener (Awst 9) yn Eglwys y Santes Fair.

Yn wreiddiol o Abertawe, ond bellach yn astudio gradd ôl-raddedig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae hi wedi ysgrifennu a recordio cerddoriaeth jazz yn y Gymraeg.

Dywed wrth golwg360 ei bod yn edrych ymlaen i chwarae yn yr ŵyl am y tro cyntaf, ac i berfformio tair cân jazz arbennig ar ei chyfer.

Bu’n cydweithio ag arweinydd band The Siglo Section ar drefniant o un o’i chaneuon, sef ‘Caffi Bach’.

Cân serch yw hi am ddyn o’r Yemen deithiodd i Gaerdydd yn ystod Windrush, gan syrthio mewn cariad â Chymraes.

Lansio llwyfan newydd

Yn rhan o’r dathliadau, bydd llwyfan newydd yn cael ei lansio eleni sef mindset stage yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu.

Un band fydd yn perfformio yno nos Wener, Awst 9 yw Band Pres Llanreggub.

Dywed Owain Roberts, sylfaenydd y band, ei fod yn “un o wyliau rhyngwladol y byd”, a bod “y rhestr o’r cyn-artisitaid sydd wedi perfformio yno yn eitha’ intimidating“.

“Mae yna gewri o’r byd jazz wedi chwarae yno, felly pan gawson ni’r gwahoddiad wnaethon ni neidio at y cyfle,” meddai wrth golwg360.

Dyma’r tro cyntaf i’r band chwarae yn yr ŵyl, a dywed Owain Roberts eu bod yn teimlo bod llawer o wyliau cerddorol wedi cael amser caled ers y pandemig, a’i fod yn gyfrifoldeb “rhoi ’nôl i wyliau cymunedol fel Gŵyl Jazz Aberhonddu”.

Yn ystod eu perfformiad, bydd y band yn cyfuno amryw o arddulliau gwahanol – o jazz New Orleans i drum and bass, o hip hop i anthemau Cymraeg Dafydd Iwan, a bydd Tara Bandito yn ymuno â nhw ar y llwyfan.

Mae’r arddull jazz yn barod yn faes lleiafrifol, ac mae’n bwysig cefnogi’r genre, meddai Owain Roberts.

“Mae Gŵyl Jazz Aberhonddu yn gwneud gwaith gwych, ac mae’n bwysig eu cefnogi po fwyaf rydan ni’n gallu.”

Mwy o ddigwyddiadau

Bydd gormydaith ‘Brecon Frazz Parade’ yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn (Awst 10), a bydd y band jazz lleol Wonderbrass yn diddanu’r gynulleidfa.

Yn ystod penwythnos olaf yr ŵyl, bydd sgriniau ffilm yn cael eu dangos gan gynnwys dangosiad cyntaf y Deyrnas Unedig o’r ffilm Ffrengig 2017 Django.

Dywed Rhydian Paterson, gweithiwr llawrydd Cefnogi Digwyddiadau a Chyfryngau’r Ŵyl, fod yr awyrgylch yn Aberhonddu yn yr ŵyl y llynedd “yn fywiog, yn egnïol, yn gynnes ac yn groesawgar, ac ni ellir ond dychmygu sut le fydd yna ym mis Awst, mis gwych i gerddoriaeth a thwristiaeth ym Mannau Brycheiniog”.

Mae modd prynu tocynnau i’r ŵyl ar eu gwefan: http://breconjazz.org, a phrynu tocynnau i lwyfan mindset stage ar eu gwefan nhw: https://mindsetstage.co.uk.

Artisitaid ar lwyfan mindset