Mae gwesty yng Ngheredigion, sydd hefyd yn ysgol iaith, wedi cael ei goroni’n “ofod mwyaf Cymraeg y Byd”.

Ers tair blynedd, mae Nia Llewelyn wedi bod yn cynnal cyrsiau Cymraeg yn Garth Newydd yn Llanbedr Pont Steffan.

Mae siaradwyr Cymraeg newydd yn teithio o bob cwr o’r byd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Awstralia a Sgandinafia, i fagu hyder yn siarad yr iaith.

Derbyniodd Garth Newydd y teitl yng Ngwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd yn Aberystwyth, gwobrau sy’n rhan o brosiect Bwrlwm ARFOR i hyrwyddo budd economaidd y Gymraeg yn Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

“Mae pobol yn gallu aros gyda ni am noson neu am wythnos, ac mae’n gyfle i bobol ymgolli yn y Gymraeg,” eglura Nia Llewelyn.

“Mae saith ystafell wely gyda lle i gyfanswm o ddeg o bobol ac yn ystod eu harhosiad maen nhw’n paratoi bwyd ac yn bwyta gyda’i gilydd, yn mynd allan gyda’i gilydd ac yn ymweld â siopau gyda staff sy’n siarad Cymraeg.

“Fe allen ni wario arian ar drefnu digwyddiadau, ond yr hyn sy’n well gan ein gwesteion ei wneud yw cael cyfle i gyfarfod, siarad a dod i adnabod siaradwyr Cymraeg brodorol.

“Yr hyn rydyn ni’n ei wneud yw helpu pobol ar y daith i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.

“Y dyddiau yma, mae yna lot o ddysgu yn digwydd o flaen sgrin ond mae’n llawer brafiach i bobol gymdeithasu gyda’i gilydd, ac er mwyn eu hannog i siarad dw i’n gofyn iddyn nhw ddod ag eitemau gyda nhw.

“Yr wythnos diwethaf cawsom fenyw o Texas, pobol o Ganada ac Awstralia, a mis diwethaf roedd rhywun o Sweden yn aros yma nad oedd erioed wedi siarad ag unrhyw un yn Gymraeg wyneb yn wyneb, ac fe wnaeth hi ymdopi’n wych.

“Rydyn ni’n cael pob math o bobol yma.

“Rydyn ni wedi cael dynes o Falta oedd yn siarad naw iaith ac eisiau dysgu Cymraeg.”

Marcus Whitfield, sy’n dod o Fwcle yn Sir y Fflint ond sy’n byw yn Nghaint, yw perchennog y gwesty, ac mae yntau wedi dysgu’r iaith hefyd.

‘Rhoi cynnig ar yr iaith’

Cafodd chwe gwobr arall eu cyflwyno yn ystod y noson yn Aberystwyth, gan gynnwys un i Sglods Llanon am y Brand Mwyaf Cymraeg.

“Fe ddechreuon ni’r busnes ddeunaw mis yn ôl, ac roedden ni eisiau rhoi enw Cymraeg i’r busnes ac mae’n enw hawdd y gall unrhyw un ei ddeall a’i ddweud,” meddai Nia Roberts, sy’n rhedeg y siop bysgod a sglodion gyda’i gŵr Aled.

“Ein llwyddiant ni yw ein bod ni’n cael pobol i ddod i mewn sydd efallai yn dysgu Cymraeg, ac maen nhw’n edrych ar y fwydlen ddwyieithog ac felly maen nhw’n gallu archebu yn Gymraeg achos maen nhw eisiau rhoi cynnig arni.”

Dyfrig Siencyn (Arweinydd Cyngor Sir Gwynedd) Nia Roberts a Sian Thomas o Sglods Llanon. Llun gan Phil Blagg

Enillwyr y gwobrau

Staff a Busnes Mwyaf Cymraeg y Byd: Caffi Maes Caernarfon

Unigolyn Mwyaf Cymraeg y Byd: Geraint Edwards, Pedair Cainc

Brand Mwyaf Cymraeg y Byd: Sglods Llanon

Gofod Mwyaf Cymraeg y Byd: Garth Newydd

Cynnyrch Mwyaf Cymraeg y Byd: Blocs / Enfys o Emosiynau

Cyfryngau Cymdeithasol Mwyaf Cymraeg y Byd: Parc Cŵn Pawen Lawen

‘Arf ddefnyddiol’

Cwmni ymgynghori Lafan, o Ynys Môn, oedd yn trefnu’r gwobrau.

Dywed Geraint Hughes, Ymgynghorydd Arweiniol Lafan, eu bod nhw wedi lansio’r gwobrau i gydnabod busnesau sy’n mynd gam ymhellach i hyrwyddo a defnyddio’r Gymraeg.

“Rydyn ni wedi cael dysgwyr Cymraeg yma a oedd bum mlynedd yn ôl ddim yn gallu siarad gair o Gymraeg ac rydyn ni wedi cael pobol o bob math o gefndiroedd a busnesau,” meddai.

“Mae gan bawb stori wahanol ond yr hyn sy’n dod â nhw at ei gilydd yw nid yn unig eu hangerdd dros y Gymraeg ond, yn fwy na hynny, eu bod nhw’n gweld yr iaith fel arf ddefnyddiol ac yn aml hanfodol i’w busnes.

“Y gobaith yw y bydd y digwyddiad hwn yn esblygu dros amser, ond yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw bod pobol yn cydnabod gwerth y Gymraeg mewn busnes.”

Llety i godi hyder dysgwyr Cymraeg

Cadi Dafydd

Chwalu’r ffin rhwng dysgwyr a’r gymuned Gymraeg yw nod prosiect newydd yn Llanbedr Pont Steffan