Mae grŵp o bobol yn y gogledd yn codi arian i ddod â phlant o Balesteina i Ben Llŷn ym mis Medi.

Drwy gydweithio gydag Undeb Amaethwyr ym Mhalesteina, mae’r ymgyrch yn gobeithio gwahodd unarddeg o blant a thair menyw o’r Llain Orllewinol sydd â chysylltiad â’r byd amaethyddol.

Dywed y trefnwyr y bydd yr ymweliad yn gyfle i’r plant fwynhau heddwch a dod i adnabod plant Cymru.

Mae Hamas wedi dweud heddiw fod eu harweinydd wedi cael ei ladd yn Tehran, prifddinas Iran.

Mae’r grŵp militaraidd yn beio Israel am farwolaeth Ismail Haniyeh.

Dydy Israel heb ymateb eto, ond maen nhw wedi addo cael gwared ar arweinwyr Hamas cyn hyn.

Daeth ei farwolaeth oriau ar ôl i Israel ddweud eu bod nhw wedi lladd un o arweinwyr grŵp militaraidd Hezbollah yn Lebanon.

Mae’r ymosodiadau ar ddau arweinydd militaraidd sy’n derbyn cefnogaeth gan Iran o fewn 24 awr wedi codi pryderon am ymladd pellach yn y Dwyrain Canol.

Roedd Ismail Haniyeh yn rhan o’r trafodaethau heddwch oedd yn cael eu trefnu gan Qatar, yr Unol Daleithiau a’r Aifft hefyd.

‘Egwyl o’r trawma’

Gobaith y criw o’r gogledd, sy’n gobeithio dod â’r plant i Gymru, yw y byddan nhw’n cael egwyl o’r trawma maen nhw’n ei ddioddef yn Gaza.

Mae’r fenter yn aros i gael clywed a fydd y plant yn derbyn fisas, ac yn dweud eu bod nhw’n ffyddiog y bydd hynny’n digwydd.

Pan fyddan nhw yng Nghymru, y bwriad yw eu dysgu nhw am ffermio yn y gogledd a’u cyflwyno nhw i bobol ifanc drwy Glwb Ffermwyr Ifanc lleol.

“Fe ddaethom ni’n ymwybodol iawn ô’r amgylchiadau anodd tu hwnt sydd i ffermio ym Mhalestina oherwydd yr amgylchiadau yn y Dwyrain Canol a phenderfynu cynnig ysbaid i blant o deuluoedd â chysylltiad â ffermio,” meddai Richard Hughes, un o’r trefnwyr.

“Buom mewn cysylltiad efo Rula Khateeb, gwraig a Mam, a’i theulu’n byw yn Ramallah.

“Hi yw ysgrifenyddes y Wasg i Undeb Amaethwyr ym Mhalestina a chysylltiad ganddi â’r Cenhedloedd Unedig.

“Roedd Rula yn awyddus iawn i ddod a phobol ifanc yma i gael egwyl o’r trawma y maent yn ei ddioddef oherwydd yr amgylchiadau maent yn byw ynddo.”

Mae Nant Gwrtheyrn yn cefnogi’r fenter, ac wedi cytuno i’w lletya am bris “rhesymol”, a bydd yr arian fydd yn cael ei godi yn talu am lety, cynhaliaeth a theithio iddyn nhw.

Bydd unrhyw arian dros ben yn mynd tuag at achosion Palesteinaidd, medd y trefnwyr.

Mae’r fenter wedi derbyn cefnogaeth yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts; Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd; Tim Jones, cadeirydd Parc Cenedlaethol Eryri; Glyn Roberts, cadeirydd cangen Undeb Amaethwyr Cymru yn Sir Gaernarfon; yr Aelod o’r Senedd Mabon ap Gwynfor; Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri; Nant Gwrtheyrn; Cymdeithas y Cymod; ac eglwysi Chwilog, Llwyndyrys a Phencae.