Mae “problemau o hyd” yng ngwasanaeth mamolaeth Ysbyty Singleton yn Abertawe, medd arolygwyr, sy’n dweud bod y sefyllfa’n gwella serch hynny.

Daw sylwadau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) mewn adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 31).

Yn ystod arolygiad blaenorol fis Medi y llynedd, nododd arolygwyr sawl pryder o ran diogelwch cleifion, a chafodd hysbysiad gwella ei gyhoeddi ar unwaith i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Oherwydd nifer y risgiau gafodd eu nodi, a’u difrifoldeb, cynhaliodd AGIC arolygiad dilynol pellach fis Ebrill eleni, a hynny dros gyfnod o dri diwrnod yn olynol, gan ganolbwyntio ar sawl ward sy’n rhan o’r uned, gan gynnwys y wardiau esgor ac ôl-enedigol, y theatrau llawfeddygol, Uned Geni’r Bae a’r Unedau Asesu Cynenedigol.

Nododd yr arolygwyr welliannau sylweddol i’r gwasanaeth ers yr arolygiad diwethaf, ond ceir rhai heriau o hyd, ac mae angen gwneud rhagor o welliannau er mwyn sicrhau bod menywod a phobol sy’n rhoi genedigaeth yn cael gofal cyson o safon dderbyniol.

Er gwaethaf gwelliannau sylweddol o ran adnoddau staff ym mhob rhan o’r uned, roedd yr arolygwyr yn pryderu o hyd nad oedd lefelau staffio diogel yn yr Uned Asesu Cynenedigol, ac fe wnaethon nhw ofyn am sicrwydd ar unwaith yn hyn o beth.

Yn gyffredinol, nododd yr arolygwyr fod y staff yn gweithio’n galed i roi profiad cadarnhaol i fenywod a phobol sy’n rhoi genedigaeth, a’u teuluoedd, er gwaetha’r pwysau parhaus ar yr uned.

Yn ystod yr arolygiad, rhannodd aelodau o’r staff eu pryderon am ofal cleifion yn sgil y cynnydd yn nifer y staff asiantaeth oedd yn cael eu defnyddio, ac o ran diffyg cymysgedd sgiliau priodol yn yr uned.

Diffyg prosesau digonol ar waith

Fe wnaeth arolygwyr ofyn am sicrwydd ar unwaith ynghylch pryderon am yr Uned Asesu Cynenedigol yn sgil lefelau staffio isel a’r ffaith nad oedd prosesau digonol ar waith.

Roedd hyn yn cynnwys diffyg hyfforddiant ar gyfer aelodau o staff sy’n brysbennu galwadau ac yn rhoi gwybodaeth i gleifion.

Roedd y ffaith nad oedd lefelau staffio’r Uned Gofal Trosiannol yn cydymffurfio â chanllawiau Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain (BAPM) hefyd yn destun pryder.

Pan gawson nhw eu holi, dywedodd aelodau o’r staff bydwreigiaeth nad oedd cyfarpar meddygol hanfodol bob amser ar gael i’w galluogi i roi gofal digonol i’r cleifion.

Roedd y farn hon yn amlwg yn yr arolwg staff hefyd, lle mai dim ond hanner yr ymatebwyr ddywedodd fod cyfarpar digonol ar gael iddyn nhw.

Cafodd rhai o’r materion gafodd eu nodi yn ystod yr arolygiad eu datrys yn gyflym a chafodd newidiadau eu rhoi ar waith ar unwaith.

Doedd diwyg y ffurflen ar gyfer gwirio cyfarpar adfywio ddim yn briodol, gan nad oedd yn galluogi’r staff i gofnodi digon o wybodaeth am ddiffygion neu eitemau coll.

Yn ystod yr arolygiad, cafodd y broses wirio hon ei diwygio, a chafodd ffurflenni cynhwysfawr eu darparu ar gyfer cofnodi gwiriadau.

Yn ystod noson gynta’r arolygiad, roedd y ffaith nad oedd y troli argyfwng yn yr Uned Gofal Trosiannol ar gael yn hwylus yn destun pryder.

Fodd bynnag, cafodd hyn ei drafod â staff yr uned, ac aethon nhw i’r afael â’r mater yn gyflym yn ystod yr arolygiad.

Camau cadarnhaol, ond diffyg dwyieithrwydd

Roedd yn gadarnhaol gweld amrywiaeth o fentrau i gefnogi menywod a staff, gan gynnwys bydwraig ddiogelu a bydwraig iechyd meddwl arbenigol, medd yr arolygwyr.

Ar y cyfan, roedd yr uned yn lân ac yn daclus ac roedd gwybodaeth “Dywedoch Chi, Gwnaethom Ni” i’w gweld, oedd yn nodi sut y cafodd pryderon a sylwadau eu defnyddio i ddatblygu a gwella’r gwasanaeth.

Edrychodd yr arolygwyr ar yr arddangosiadau gwybodaeth, a gwelson nhw nad oedd yr holl wybodaeth ar gael yn ddwyieithog.

Rhaid i’r bwrdd iechyd wella’r arddangosiadau er mwyn sicrhau y caiff y Gymraeg ei hybu fel rhan o’r cynnig rhagweithiol, medd yr arolygwyr.

Roedd cyfradd cwblhau hyfforddiant gorfodol staff yr uned wedi gwella’n sylweddol ers yr arolygiad blaenorol.

Roedd hyfforddiant yn canolbwyntio ar ymwybyddiaeth o amrywiaeth a chydraddoldeb, a rhannodd aelodau o’r staff enghreifftiau o bobol â nodweddion gwarchodedig o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010) yn cael cymorth i gyfathrebu’n effeithiol a defnyddio gwasanaethau.

Roedd y tîm amlddisgyblaethol yn gweithio’n effeithiol ac roedd trefniadau llywodraethu priodol ar waith i sicrhau bod digwyddiadau yn cael eu monitro a’u datrys.

Fodd bynnag, dywedodd rhai aelodau o’r staff nad oedden nhw o’r farn bod digon o gyfleoedd iddyn nhw roi adborth i’r uwch dimau arwain.

Byddai’n ddefnyddiol pe bai’r arweinwyr yn ffurfioli cyfleoedd a systemau i aelodau o’r staff roi adborth a chynnig gwelliannau, gan sicrhau bod y staff yn fwy ymwybodol o’r cyfleoedd a’r systemau hynny, medd yr arolygwyr.

Roedd systemau a phrosesau penodol ar waith i sicrhau bod yr uned famolaeth yn canolbwyntio ar wella ei gwasanaethau yn barhaus.

Cofnodion a dogfennau

Ar y cyfan, roedd y cofnodion oedd yn cael eu cadw o safon ddigonol, a chynlluniau gofal yn cael eu dogfennu’n dda rhwng y timau amlddisgyblaethol.

Cafodd diffygion eu nodi mewn rhai cofnodion, gan gynnwys llofnodion coll neu gofnodion oedd yn anodd eu darllen.

Wrth edrych ar gofnodion cleifion, gwelodd yr arolygwyr nad oedd trafodaethau am feddyginiaethau lleddfu poen yn ystod y cyfnod esgor a thrafodaethau am ddewisiadau bwydo bob amser yn cael eu dogfennu’n effeithiol.

Roedd yn destun pryder clywed adborth pellach gan fenywod mewn perthynas ag oedi cyn rhoi meddyginiaethau lleddfu poen, a chafodd hynny ei nodi yn ystod yr arolygiad blaenorol hefyd.

Rhaid i’r bwrdd iechyd fonitro ac adolygu adborth ac ymateb iddo er mwyn osgoi oedi o’r fath, medd yr arolygwyr.

Ar ôl cyfnod o ansefydlogrwydd o ran arweinyddiaeth, roedd yn “galonogol gweld bod strwythur arwain sefydlog yn dod i’r amlwg”, medd yr arolygwyr wedyn.

Nododd y rhan fwyaf o staff y wardiau gafodd eu holi fod yr uwch-reolwyr yn gwerthfawrogi eu mewnbwn a’u syniadau ar gyfer newid.

Dywedodd llawer o’r bydwragedd a’r meddygon eu bod nhw’n teimlo bod diwylliant cadarnhaol ar y wardiau, a bod morâl wedi gwella.

Fodd bynnag, dywedodd rhai aelodau o’r staff nad oedden nhw bob amser yn teimlo’n hyderus y caiff camau eu cymryd mewn ymateb i bryderon gafodd eu huwchgyfeirio.

Mae AGIC wedi parhau i weithio’n agos gyda’r bwrdd iechyd ers yr arolygiad, ac wedi cael cynllun gwella cynhwysfawr sy’n anelu at fynd i’r afael â’r materion gafodd eu nodi yn ystod yr arolygiad cyfredol a’r arolygiad blaenorol.

‘Heriau parhaus’

“Mae ein gwaith wedi nodi heriau parhaus yng ngwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

“Er ein bod wedi nodi gwelliannau yn ystod ein harolygiad dilynol, mae angen cymryd camau pellach.

“Gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn cyflymu’r camau gaiff eu cymryd i ysgogi gwelliannau amserol, nid yn unig i’r cleifion, ond hefyd i staff yr uned famolaeth.

“Byddwn yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd i sicrhau y caiff gwelliannau cadarn eu gwneud ac y ceir tystiolaeth o’r gwelliannau hynny.”