Mae cynnydd aruthrol wedi bod yn y gost o atgyweirio ffensys mewn coedwigoedd a choetiroedd sydd wedi’u difrodi ar dir yn ne ddwyrain Cymru yn sgil ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rheoli tua 8,744 hectar o dir yn ne-ddwyrain Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae swyddogion yn amcangyfrif fod gweithgareddau gwrthgymdeithasol wedi achosi oddeutu £120,000 mewn costau er mwyn atgyweirio ffiniau, yn enwedig ffensys, dros y tair blynedd diwethaf.
Mae coetir St James ger Tredegar wedi gweld cynnydd yn nifer y digwyddiadau o’r fath yn ddiweddar, yn ôl swyddogion.
Dywed Jo-Anne Anstey, Uwch Swyddog Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru, eu bod nhw wedi gweld “cynnydd sydyn yn nifer y ffensys terfyn yn ein coetiroedd sydd wedi’u torri neu eu difrodi’n fwriadol”.
“Rydym yn cynnal tua 400 milltir o ffensys yn ein coetiroedd ar draws de ddwyrain Cymru, sy’n hanfodol i’n helpu i gadw ymwelwyr â’n coedwigoedd yn ddiogel, yn ogystal â diogelu coed sydd newydd eu plannu rhag cael eu difrodi,” meddai.
“Mae’n dorcalonnus pan fo difrod bwriadol yn cael ei achosi.
“Mae ailosod ffensys yn cymryd llawer o amser ac yn gostus – adnoddau y gellid eu gwario’n llawer gwell trwy eu hail-fuddsoddi yn ein coedwigoedd a’n coetiroedd.”
Mae torri neu ddifrodi ffensys yn fwriadol mewn coedwigoedd yn anghyfreithlon, ac fe all achosi risg difrifol i ddiogelwch pobol, yr amgylchedd a bywyd gwyllt lleol drwy:
- atal ymwelwyr rhag cael eu hamddiffyn rhag ardaloedd o’r coetir all fod wedi’u ffensio am resymau iechyd a diogelwch
- cynyddu’r risg y bydd da byw yn dianc ar briffyrdd ac ardaloedd preswyl, allai achosi niwed i’r cyhoedd, yr anifeiliaid, a bywoliaeth ffermwyr
- cynyddu’r risg o dipio anghyfreithlon a gweithgareddau gwrthgymdeithasol eraill
- caniatáu mynediad i gerbydau oddi ar y ffordd sy’n gallu cael effaith negyddol ar fioamrywiaeth a bywyd gwyllt.