Mae Dr Gwyn Williams, ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngorllewin Abertawe yn yr etholiad cyffredinol eleni, wedi beirniadu’r bygythiad gan y Blaid Lafur i dorri gwasanaethau cyhoeddus.

Mewn cyhoeddiad ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 30), cyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves fod Llywodraeth Llafur y Deyrnas Unedig wedi etifeddu gorwariant o £22bn gan y Ceidwadwyr.

Oherwydd hyn, maen nhw wedi canslo sawl prosiect ar gyfer ffyrdd a’r rheilffyrdd.

Hefyd, cyhoeddodd mai pensiynwyr ar gredyd penswin neu fudd-daliadau eraill yn unig fydd yn gymwys i dderbyn Taliad Tanwydd y Gaeaf.

‘Troi cefn ar addewidion’

Dywed Dr Gwyn Williams fod y Canghellor Rachel Reeves “yn honni iddi ddarganfod twll du dros £20bn yn y cyfrifon cyhoeddus ers dod i rym”.

“Ond soniwyd droeon am y bwlch hwn drwy gydol yr etholiad – nid yn unig gan Blaid Cymru, ond hefyd gan y Sefydliad dros Astudiaethau Cyllidol,” meddai.

“Mae’n glir fod y Blaid Lafur bellach yn paratoi’r ffordd i droi cefn ar yr addewidion a wnaed er mwyn cael eu hethol.”