Mae elusen Age Cymru yn galw ar Ganghellor y Deyrnas Unedig i ailystyried cynlluniau i newid rheolau cymhwysedd ar gyfer Taliadau Tanwydd y Gaeaf.

Mae taliadau o hyd at £300 ar gael i bawb dros oed Pensiwn y Wladwriaeth.

Fodd bynnag, o’r gaeaf hwn, fydd pensiynwyr ddim ond yn derbyn taliad os ydyn nhw’n derbyn credyd pensiwn.

Fydd miloedd o bobol hŷn yng Nghymru ddim bellach yn gymwys i dderbyn y taliad yn dilyn cyflwyno’r prawf modd gan Rachel Reeves.

Mae disgwyl i’r newid leihau nifer y pensiynwyr sy’n derbyn y taliad yng Nghymru a Lloegr o ddeg miliwn, gan arbed £1.4bn y flwyddyn ariannol hon.

Dywed y Canghellor fod y Llywodraeth Lafur wedi etifeddu gorwariant rhagamcanol o £22bn gan y Ceidwadwyr.

Mae hi hefyd wedi canslo rhai prosiectau ffyrdd a rheilffyrdd, gan gynnwys y twnnel o dan Gôr y Cewri.

Roedd y gorwariant oedd yn cael ei ragweld ar gyfer y system loches, gan gynnwys cynllun Rwanda mae Llafur bellach wedi’i ddileu, yn fwy na £6.4bn ar gyfer eleni yn unig, meddai.

Cadarnhaodd Rachel Reeves hefyd fod y llywodraeth wedi gwneud cynnig cyflog o 22% am ddwy flynedd i feddygon iau, a bydd athrawon a gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol hefyd yn cael codiad o 5.5%.

‘Peri pryder’

Mae Age Cymru yn dweud eu bod yn “hynod bryderus” am yr effaith fydd hyn yn ei chael ar bobol hŷn ledled Cymru.

“I lawer, mae taliad tanwydd y gaeaf yn achubiaeth i gadw eu cartrefi’n gynnes yn ystod misoedd oer y gaeaf,” medd yr elusen.

“Gyda disgwyl i’r Cap Pris Ynni godi i tua 10% ym mis Hydref eleni ac aros yn uchel yn ystod y Gaeaf, bydd hyn yn gadael y rhan fwyaf o filiau ynni bron ddwywaith y gost cyn yr argyfwng, ar lefelau sy’n anfforddiadwy i lawer o bobol hŷn ledled Cymru.

“I bobol sydd braidd yn ymdopi sydd ddim yn gymwys i gael Credyd Pensiwn, mae hyn yn peri pryder cynyddol.

“Gwyddom fod mwyafrif y bobol hŷn ar incwm sefydlog, felly mae’n anodd talu unrhyw gostau annisgwyl, gyda llawer ar fin mynd i drafferthion ariannol difrifol.”

“Rydym yn gwybod bod miloedd o aelwydydd yng Nghymru yn methu â hawlio’r £200m mae ganddyn nhw hawl iddo mewn Credyd Pensiwn, felly mae angen gwneud llawer mwy i gefnogi’r bobol hyn i gael mynediad at yr hyn y maen nhw’n gymwys amdano,” meddai Victoria Lloyd, y Prif Weithredwr.

“Mae dull prawf-modd Taliad Tanwydd Gaeaf yn rhoi ychydig iawn o amser i bensiynwyr baratoi ac mae’n benderfyniad a allai beryglu eu hiechyd yn ogystal â’u cyllid.

“Mae incwm gweddus yn darparu urddas a diogelwch, ac yn helpu pobol i aros yn annibynnol.

“Mae cartref cynnes, bwyd maethlon, trît achlysurol a gallu mynd o gwmpas yn dda i iechyd a lles, gan helpu pobol hŷn i wneud y gorau o fywyd.

“Dylai hyn nid yn unig fod yn ddyhead ond profiad pob person hŷn ledled Cymru.”