Mae Bod y Gwerni (marsh harrier), aderyn ysglyfaethus sydd dan fygythiad yng Nghymru, wedi nythu’n llwyddiannus am y tro cyntaf erioed yng Ngheredigion, a hynny ar safle’r RSPB am y tro cyntaf hefyd.
Mae’r elusen gadwraeth wrth eu boddau, medden nhw, yn dilyn misoedd o arsylwi, gyda thri chyw wedi hedfan o’r nyth.
Yn ôl Alun Prichard, Cyfarwyddwr RSPB Cymru, mae “llwyddiant fel hwn yn ein hatgoffa ni i gyd pam ein bod ni’n ymladd dros natur Cymru”.
“Ni fyddwn yn stopio galw ar y rhai sydd mewn grym i roi ystyriaeth i natur Cymru wrth galon pob penderfyniad a deddfwriaeth newydd,” meddai.
Mannau nythu addas
Yn dilyn eu llwyddiant yng Ngheredigion, mae’r RSPB wedi mynd ati i nodi mannau nythu addas pellach i’r rhywogaeth.
O ganlyniad, cafodd yr ardaloedd hyn eu cadw’n rhydd rhag aflonyddwch, cyn a thrwy gydol y tymor bridio, er mwyn sicrhau’r cyfleodd gorau i’r adar.
Mae’r tîm yn Ynys-hir yn falch iawn gyda chanlyniadau eu gwaith, ac maen nhw bellach yn gweithio’n galed i gyfuno’r cynefinoedd iach gwahanol i gynnig y math o amrywiaeth mae adar fel Bod y Gwerni’n gallu ffynnu o’i herwydd.
Dywed Tom Kistruck, warden yr RSPB yn Ynys-hir, fod Bod y Gwerni bellach yn “symbol o bwysigrwydd gwaith cadwraeth ers tro byd”, a’u bod nhw wedi mynd yn agos iawn at ddiflannu o wledydd Prydain.
Dywed eu bod nhw’n falch iawn yn Ynys-hir o gael chwarae rhan yn y llwyddiant parhaus yno.
Y gobaith yw y bydd y llwyddiant hwn yn bennod newydd i Fod y Gwerni yng Ngheredigion a Chymru, gan fod y rhywogaeth ar y rhestr oren o adar sydd mewn perygl cadwraethol.
Mae RSPB Cymru’n credu bod hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cadwraeth, ac yn rhoi gobaith hanfodol i fyd natur Cymru.