Mae gweithwyr post yn y gogledd yn cael eu hannog i rannu eu profiadau o weithio i’r cwmni yn sgil sgandal Horizon, yn y gobaith y byddan nhw’n darparu tystiolaeth allweddol i’r ymchwiliad i’r helynt.
Mae’r ymchwiliad yn un annibynnol fydd yn edrych ar fethiannau system dechnoleg Horizon, arweiniodd at erlyn a chael cannoedd o is-bostfeistri’n euog ar gam o gamddefnyddio arian.
Mae YouGov, y cwmni ymchwil annibynnol, wedi cysylltu â hyd at 16,000 o bobol yn y Deyrnas Unedig ar ran yr ymchwiliad, yn eu gwahodd nhw i roi tystiolaeth yn ddienw.
Bydd gwahoddiad i bob is-bostfeistr yn y Deyrnas Unedig ac ymgeiswyr ar gyfer cynllun iawndal rannu eu barn am Swyddfa’r Post.
Bydd casgliadau’r arolygon yn cael eu cyflwyno fel tystiolaeth i gam ola’r ymchwiliad, a byddan nhw’n rhan o gasgliadau terfynol y cadeirydd, Syr Wyn Williams.
‘Effaith hyd heddiw’
“Mae sgandal Horizon wedi cyffwrdd cymunedau yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig, ac mae’r effaith yn parhau i gael ei theimlo hyd heddiw,” meddai Mark Isherwood, y Ceidwadwr sy’n Aelod rhanbarthol o’r Senedd yn y gogledd.
“Rwy’n annog unrhyw un yng ngogledd Cymru sydd wedi derbyn yr holiaduron hyn i rannu eu profiadau ac i gyfrannu at yr ymchwil bwysig hon,” meddai.
Roedd dros 952 o swyddfeydd post yng Nghymru erbyn mis Mawrth y llynedd.
Mae rhai yn eiddo’r Goron, ond eraill yn cael eu rhedeg gan is-bostfeistri.
“Mae straeon dynol wrth galon yr ymchwiliad hwn,” meddai Syr Wyn Williams.
“Fel y bydd yn amlwg erbyn nawr, ac fel dw i wedi’i ddweud o dro i dro, cefais fy effeithio’n ddwys gan straeon am galedi a dioddefaint mae nifer wedi’i wynebu.
“Rwy’n annog pawb sy’n derbyn gohebiaeth i gwblhau’r arolygon, ac rwy’n estyn fy niolch calonog nawr i bawb sy’n cymryd yr amser ac yn trafferthu i wneud hynny.”