Mae ymgyrch ar droed i achub un o brif ganolfannau beicio mynydd Cymru a’i chadw mewn dwylo lleol.
Daw hynny wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru gadarnhau eu bod yn trafod colli 265 o swyddi – mwy nag un ym mhob deg.
Roedd cyfarfodydd ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 31) gyda staff yn dechrau ymgynghoriad am ddyfodol y swyddi, a hynny’n cynnwys staff tair canolfan ymwelwyr y corff amgylcheddol – yng Nghoed y Brenin ger Dolgellau, Ynyslas ger Borth, a Nant yr Arian ger Aberystwyth.
Y tebygrwydd ydy y bydd y tair canolfan yn cau ym mis Mawrth, ond mae grŵp lleol yn ymgyrchu i achub Canolfan Coed y Brenin a’i chadw mewn dwylo lleol.
Roedd y canolfannau ynghau i ymwelwyr brynhawn ddoe, oherwydd cyfarfodydd staff.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ynghanol proses i geisio arbed £13m o’u cyllideb, ac fe fydd yr ymgynghoriad swyddi, ddechreuoedd ddoe, yn para am 45 niwrnod.
Mae’r corff yn dweud bod rhai swyddi eisoes yn wag.
Wrth gadarnhau mai’r nod yw “tynnu” 255 o swyddi o’r corff, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi pwysleisio y byddan nhw’n ceisio symud staff i swyddi newydd sy’n dod ar gael trwy brosiectau penodol, ond efallai na fyddai’r sgiliau yn cyfateb bob tro.
Ymgyrch Coed y Brenin
Mae’r newyddion yn golygu bod mwy o frys ynghlwm wrth waith grŵp lleol yn ardal Coed y Brenin, sydd yn y broses o greu cynllun i achub y ganolfan feicio mynydd yno a’i rhedeg er budd y gymuned leol.
Mae ymgyrch Caru Coed y Brenin yn poeni y bydd y ganolfan yn mynd i ddwylo cwmni preifat o’r tu allan, gan olygu bod yr holl elw yn gadael ardal y Ganllwyd a Dolgellau, ac ysbryd cymunedol y ganolfan yn cael ei golli.
Maen nhw’n cyhuddo Cyfoeth Naturiol Cymru o fethu â chydweithredu â nhw ac o osod rhwystrau yn eu ffordd wrth iddyn nhw geisio cael gwybodaeth am ffigurau angenrheidiol ynglŷn â sefyllfa ariannol y ganolfan.
Fe fydd cynrychiolwyr yr ymgyrch, ynghyd â Mabon ap Gwynfor, Aelod lleol o’r Senedd, a’r Cynghorydd lleol Delyth Lloyd Griffiths yn cyfarfod â Chyfoeth Naturiol Cymru fory. Ac maen nhw eisoes wedi comisiynu adroddiad dichonoldeb i greu achos busnes ar eu rhan.
Dim cydweithrediad
“Mae cydweithrediad Cyfoeth Naturiol Cymu yn rhan hanfodol o ran sicrhau bod yr adroddiad yn un da, ond dyw hynny ddim yn digwydd,” meddai Rhys Llywelyn, cadeirydd Caru Coed y Brenin.
“Rydyn ni wedi bod yn gofyn am gydweithrediad ers mis Chwefror ond bob tro rydyn ni’n gofyn am weld manylion y cyfrifon, mae yna esgusodion ac esgusodion ac esgusodion wedi cael eu rhoi yn ein ffordd ni.
“Beth ydyn ni’n teimlo yw bod busnesau preifat yn cael blaenoriaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru.”
Dydy’r grŵp ddim yn derbyn dadl Cyfoeth Naturiol Cymru fod rhaid dilyn rheolau caffael masnachol, gan ddadlau y byddai rhoi’r ganolfan yn nwylo cwmni preifat o’r tu allan yn mynd yn groes i Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n rhoi cyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus i ystyried oblygiadau eang, tymor hir eu penderfyniadau.
Gobaith y grŵp yn y cyfarfod fory (dydd Gwener, Awst 2) yw dechrau’r broses o gydweithredu er mwyn hwyluso cyfle’r gymuned leol o gynnal y ganolfan.
Atal elw rhag gadael y fro
“Ryden ni eisiau cael ein gweld yn cael blaenoriaeth,” meddai Delyth Lloyd-Griffiths, sy’n cyhuddo Cyfoeth Naturiol Cymru o dorri addewidion i roi cyfle i’r mudiad lleol gynnal gymryd yr awennau.
“Ryden ni eisiau’r cyfle i redeg y trac beicio mynydd byd-enwog, y ganolfan wybodaeth, y maes parcio, yr adnoddau plant a’r caffi. Ond ryden ni’n pryderu eu bod nhw’n cynllunio i weithio efo cwmni o Loegr, efo’r elw i gyd yn mynd allan.”
Mae hi’n sicr fod gan Caru Coed y Brenin, sydd wedi’i sefydlu’n Gymdeithas Budd Cymunedol gyda chefnogaeth cyrff fel Cymunedoli a Grymuso Gwynedd, y gallu i gynnal y ganolfan yn llwyddiannus, efo unrhyw elw’n mynd yn ôl i ddatblygu’r ganolfan.
‘Siomedig’
Dywed Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, ei fod yn “siomedig” yn sgil y newyddion.
“Rwy’n siomedig iawn i glywed heddiw bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn symud ymlaen ar fyrder gyda chynigion amgen ar gyfer dyfodol eu canolfan yng Nghoed y Brenin yn fy etholaeth,” meddai.
“Pan ddygwyd y mater hwn i fy sylw i, Liz Saville Roberts, a’r Cynghorydd lleol Delyth Lloyd Griffiths yn gynharach eleni, roeddwn dan yr argraff na fyddai dim yn digwydd am y ddwy flynedd nesaf, ac y byddai digon o amser yn cael ei roi i ddod o hyd i bartneriaid eraill i gyflwyno darpariaeth ar y safle yn y dyfodol.
“Mae’r ffaith fod Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn ymgynghori â’r undebau ar ddiswyddiadau posib yng Nghoed y Brenin yn peri pryder mawr.
“Bydd hyn yn achosi llawer iawn o bryder ac ansicrwydd i staff arlwyo a manwerthu sy’n cael eu cyflogi yn y ganolfan ar hyn o bryd.
“Er bod y llwybrau, y meysydd parcio a’r toiledau yn parhau ar agor yng Nghoed y Brenin, mae dyfodol hirdymor yr adnodd hamdden gwych hwn yn parhau i fod dan fygythiad.
“Byddaf yn cyfarfod â chynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghoed y Brenin ddydd Gwener yma â’r Cynghorydd Sir lleol Delyth Lloyd Griffiths, ac aelodau o Caru Coed y Brenin sydd wedi bod yn ymgyrchu’n angerddol i sicrhau bod dyfodol y ganolfan yn aros yn nwylo’r gymuned leol.
“Ailadroddaf fy ngalwad gynharach fod yn rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn barod i weithio’n agored ac yn greadigol gyda chymunedau lleol i sicrhau bod yr adnoddau gwerthfawr hyn yn parhau i wasanaethu pobl leol ac economi ymwelwyr Meirionnydd fel ei gilydd.
“Ni ddylem, mewn gwirionedd, fod yn y sefyllfa hon lle mae dyfodol Coed y Brenin bellach yn cael ei drafod.
“Mae Coed y Brenin yn frand gwych y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud yn dda i fuddsoddi ynddo ac adeiladu arno.
“Byddaf yn ceisio sicrwydd cadarn gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch y broses ymgynghori.
“Dylai unrhyw grŵp cymunedol lleol sydd â diddordeb yn y safle gael digon o amser i ddatblygu cynllun busnes gweithredol, ac mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn ei godi fel blaenoriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.”