Mae tîm o ymgyrchwyr wedi seiclo o Frwsel i Fargam i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd rhoi cyfleoedd chwaraeon i bobol ifanc ag anableddau.
Roedd y beicwyr yn cynrychioli Margam Youth Centre Inclusion Stags ger Port Talbot, tîm sy’n hybu pêl-droed i blant ag anawsterau dysgu, anawsterau corfforol, parlys yr ymennydd, awtistiaeth, Syndrom Down, a phlant â hunanhyder isel.
Dyma’r unig glwb yng Nghymru i gynnal cyfleoedd pêl-droed â ffrâm i blant ag anawsterau symudedd.
Ar y ffordd, stopiodd y beicwyr yn Senedd Ewrop i gwrdd â chynrychiolwyr o gorff pêl-droed UEFA, cyn mynd yn ôl i Fargam gan alw heibio San Steffan a’r Senedd.
“Fe wnaethon ni gychwyn gyda’r nod o wneud yn siŵr ein bod ni’n rhannu ein neges bwysig nad yw pobol anabl yn cael eu hanghofio a’u bod ar flaen meddyliau gwleidyddion wrth wneud unrhyw benderfyniadau a all effeithio ar eu bywydau bob dydd,” meddai John Heycock, Prif Hyfforddwr tîm Margam Youth Centre Inclusion Stags.
“Mae’r rhain yn bobol sy’n wynebu heriau aruthrol bob dydd, a dyna pam oedd e’n bwysig inni ymweld â Senedd Ewrop, San Steffan a Senedd Cymru.
“Yma yng Nghymru mae mor bwysig i Lywodraeth Cymru sicrhau mwy o gyfleoedd i bobol anabl gymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad a darparu mwy o gefnogaeth i rieni a phlant ar y llwybr niwroamrywiaeth a thu hwnt.”
‘Pwysigrwydd cynhwysiant’
Fe wnaeth y beicwyr gyfarfod â Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, sy’n Gadeirydd ar y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu ac sy’n cynrychioli Margam ar lefel ranbarthol yn y Senedd, ym Mae Caerdydd.
“Maen nhw’n dîm pêl-droed anhygoel sy’n darparu man lle gall pob plentyn ddod at ei gilydd a chwarae, p’un a ydyn nhw’n abl, yn anabl neu ag anawsterau dysgu,” meddai Sioned Williams, sy’n llefarydd i Blaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol hefyd.
“Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd cynhwysiant go iawn, a rhaid i ni weithio tuag at Gymru lle mae pobol o bob gallu yn cael eu gwerthfawrogi’n gyfartal, yn cael eu clywed ac yn cael eu cynnwys.”
‘Hyrwyddo mynediad cyfartal’
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru f od eu Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i hyrwyddo mynediad cyfartal at chwaraeon a chefnogi athletwyr ifanc a thalentog a chlybiau llawr gwlad.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda Chwaraeon Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru i hyrwyddo system chwaraeon gynhwysol,” meddai.
“Rydym hefyd wedi dod â digwyddiadau chwaraeon anabledd i Gymru gan gynnwys Pencampwriaeth Rygbi Cadair Olwyn Ewrop a’r Gyfres Para Treiathlon.”