Mae galwadau ar Lywodraeth Cymru i gamu mewn a chynnig “cefnogaeth frys” i sicrhau dyfodol pwll nofio a chanolfan hamdden yng Ngwynedd.
Fe wnaeth Harlech and Ardudwy Leisure gyhoeddi, “gyda chalon drom”, yr wythnos hon eu bod nhw’n cau’r safle ar unwaith yn sgil trafferthion ariannol.
Mae’r pwll nofio wedi bod yno ers y 1970au.
Yn 2008, fe wnaeth criw o wirfoddolwyr ddechrau ei redeg yn lle Cyngor Gwynedd, ar ôl ennill grant gan y Loteri Genedlaethol i adeiladu wal ddringo a chaffi yno.
Cafodd Harlech and Ardudwy Leisure wybod yn gynharach eleni na fydd cynghorau cymuned Talsarnau, Llanbedr, y Bermo, Dyffryn na Thalybont yn gallu parhau i gefnogi’r fenter gymdeithasol yn ariannol, sy’n arwain at golli £30,000.
Yn sgil pwysau ar eu hadnoddau hwythau, mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau nad ydyn nhw’n gallu darparu rhagor o arian i gefnogi’r fenter.
Mae’r Cyngor wedi mynegi “tristwch” yn sgil colli’r ased cymunedol poblogaidd.
‘Ergyd fawr’
Mae’r Aelod Seneddol Liz Saville Roberts, yr Aelod o’r Senedd Mabon ap Gwynfor a’r Cynghorydd Gwynfor Owen, i gyd o Blaid Cymru, wedi camu mewn i geisio achub y pwll hefyd.
“Mae’n dorcalonnus clywed am gau Harlech and Ardudwy Leisure ar unwaith, wedi cyfres o ddigwyddiadau sydd wedi gadael y fenter gymdeithasol boblogaidd heb unrhyw opsiwn oni bai am gau,” medd y tri mewn datganiad ar y cyd.
“Bydd cau’r ganolfan yn ergyd fawr i gymunedau Ardudwy.
“Mae Harlech wedi bod â phwll nofio ers y 1970au, gan ddod â hapusrwydd i filoedd o blant ac oedolion, ynghyd â chefnogi’r economi ymwelwyr leol.
“Dylai’r Bwrdd a phawb sydd wedi bod ynghlwm â chynnal y fenter gymdeithasol cyhyd gael eu cymeradwyo am eu hymdrechion.
“Er gwaethaf wynebu pwysau cynyddol, fe wnaethon nhw ddatblygu ffyrdd newydd o greu incwm a chynnig gweithgareddau newydd, gan ehangu apêl y ganolfan hamdden i bobol leol ac ymwelwyr.
“Mae’n anodd egluro’r buddion mae’r ganolfan wedi’u rhoi i’r gymuned leol, nid yn unig o ran yr economi ond, yn bwysicach, wrth ddarparu gofod diogel i blant, pobol ifanc ac unrhyw un sydd am wella’u hiechyd a’u llesiant gymdeithasu a chadw’n actif.
“Gyda hyn mewn cof, rydyn ni’n teimlo’i bod hi’n addas gofyn i Lywodraeth Cymru ymyrryd, ac archwilio pa gymorth brys a chymorth hirdymor ellir ei gynnig i sicrhau hyfywedd Harlech and Ardudwy Leisure.
“Rydyn ni felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i gamu mewn a chydweithio â Chyngor Gwynedd a Harlech and Ardudwy Leisure i archwilio pa gefnogaeth fyddai’n addas i gadw’r ganolfan hamdden ar agor.
“Rydyn ni’n teimlo bod yr effaith anghymesur y byddai cau’r ganolfan yn ei chael ar gymunedau Ardudwy yn golygu bod angen i’r llywodraeth ymyrryd.
“Ynghyd â hyn, er ein bod ni’n gwerthfawrogi safle heriol eithriadol y Cyngor wrth ariannu gwasanaethau hanfodol yn ystod cyfnod o doriadau yn y sector gyhoeddus, dylid ystyried a oes unrhyw gefnogaeth ar gael drwy gronfeydd Codi’r Gwastad, er enghraifft, neu unrhyw ffynonellau eraill.
“Dylid archwilio pob opsiwn yn drylwyr er mwyn rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar Harlech and Ardudwy Leisure i gadw’r ased cymunedol pwysig hwn ar agor i’r cyhoedd.”
‘Awyddus i gefnogi’
Dywed llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod nhw’n drist i glywed am gau’r pwll dros yr wythnosau nesaf, a’u bod nhw’n gwybod y bydd ei gau yn “ergyd, nid yn unig i’r dref, ond i’r ardal ehangach”.
“Yn 2008, fe wnaeth Cyngor Gwynedd trosglwyddo perchnogaeth Pwll Nofio Harlech i gwmni nid-er-elw lleol, a dros y 16 mlynedd rydyn ni wedi ceisio cefnogi’r fenter a chyfrannu’r ariannol,” meddai’r llefarydd.
“Mae Cyngor Gwynedd wedi cynnig parhau â’r lefel bresennol o gefnogaeth ariannol, ond nid yw mewn safle i gynyddu’r cyfraniad na thalu unrhyw ddiffygion ariannol.
“Mae swyddogion y Cyngor mewn cysylltiad â’r cwmni, ac rydyn ni’n awyddus i gefnogi’r Bwrdd a’r staff sy’n cael eu heffeithio gan y newyddion siomedig hwn.”
Bydd bwrdd presennol y ganolfan hamdden yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ddydd Sul, Awst 11.