Morgannwg v Sussex: Y sir Gymreig yn ennill gêm gyffrous ar y Gnoll

Mae Morgannwg yn ddi-guro hyd yma yn nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Undydd Metro Bank

Sgorfwrdd

Bydd tîm criced Morgannwg yn gobeithio parhau’n ddi-guro yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Undydd Metro Bank, wrth groesawu Sussex i Gastell-nedd heddiw (dydd Gwener, Awst 2).

Tarodd Eddie Byrom 123 a Colin Ingram 103 mewn partneriaeth o 170 wrth guro Swydd Nottingham o wyth wiced ar y Gnoll ddydd Mercher (Gorffennaf 31).

Byddai buddugoliaeth eto heddiw yn golygu eu bod nhw bron iawn yn sicr o’u lle yn y rowndiau nesaf.

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, E Byrom, D Douthwaite, A Gorvin, A Horton, H Hurle, C Ingram, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, S Northeast, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten

Carfan Sussex: J Campbell, O Carter, T Clark (capten), H Crocombe, B Foreman, T Haines, S Hunt, D Ibrahim, A Karvelas, A Lenham, Z Lion-Cachet, H Rogers, C Tear

18:14

Wrth siarad â golwg360 ar ddiwedd y gêm, fe wnaeth Timm van der Gugten ganu clodydd cae’r Gnoll a Chlwb Criced Castell-nedd.

“Mae’n gae braf, yn awyrgylch hyfryd, ac mae’n dda cael addasu i wahanol amodau,” meddai.

“Roedd y llain heddiw’n wahanol iawn i’r gêm gyntaf gawson ni arni. Fel cricedwr, mae’n gwneud i chi addasu ac yn gwneud i chi geisio darganfod y ffordd orau o sgorio a bowlio. Rydych chi’n dysgu wrth fynd ymlaen, sy’n beth eithaf braf.

“Dwy [fuddugoliaeth] allan o ddwy. Bydden ni’n cymryd hynny bob tro

“Dw i’n meddwl mai dyma’r trydydd tro i fi chwarae yma, ac rydyn ni wedi cael gofal arbennig bob tro. Mae’r dorf yn hyfryd, ac mae’r llain wedi bod yn dda iawn. Ac rydyn ni wedi cael ambell gêm agos hefyd!

“Dw i’n cymryd y byddwn ni’n dychwelyd yma’r flwyddyn nesaf, a dw i’n edrych ymlaen at hynny.”

17:49

Mae’r dathliadau wedi dechrau!

Nos da!

17:44

Aeth yr ergyd fuddugol am bedwar, ac mae Morgannwg – rywsut – wedi ennill o un wiced.

Mae ‘nerfau i’n rhacs, ond diawch fe fydd y chwaraewyr yn dathlu heno!

17:41

BUDDUGOLIAETH!!!

17:40

Dau i ennill….

17:39

Tri i ennill o hyd. Dwy belawd i ddod. Un wiced sydd ei hangen ar Sussex…

17:36

Un o’r gemau gorau ers blynyddoedd, meddai Edward Bevan wrth sylwebu i’r BBC!

17:35

Tri i ennill….

17:32

194 am naw ar ôl 46 pelawd.

Dan Ibrahim wedi cipio tair wiced am 34 yn ei ddeg pelawd.

Saith sydd ei angen ar Forgannwg i ennill…

17:27

Archie Lenham wedi gorffen ei ddeg pelawd. Tair wiced am 29.

Morgannwg 192 am naw ar ôl 45 pelawd.

Naw i ennill….