Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd ymysg y rhai sy’n cefnogi ymgyrch am gofeb i anrhydeddu peilotiaid fu’n tynnu lluniau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Aelodau’r Uned Ffotograffiaeth Rhagchwilio (PRU) oedd â’r cyfraddau goroesi isaf yn ystod y rhyfel, ac mae prosiect Spitfire AA810 wedi lansio ymgyrch i godi cofeb iddyn nhw yn Llundain ers tua chwe blynedd.

Roedd yr uned PRU yn casglu lluniau hynod yn ystod y rhyfel, gan gymryd dros 26 miliwn o luniau o’r gelyn, a chafodd y lluniau eu defnyddio i gynllunio ar gyfer D-Day.

Yn sgil natur gyfrinachol y gwaith, roedden nhw’n hedfan ar eu pen eu hunain, heb arfau, ac roedd cyfradd marwolaethau bron yn 50% a disgwyliad oes y rhai oedd yn gwasanaethu tua deufis a hanner.

Ymhlith y rhai wnaeth oroesi oedd Edward Gordon Bacon o’r Felinheli, rhwng Bangor a Chaernarfon yng Ngwynedd. Bu farw yn 1986.

‘Colledion erchyll’

Dywed Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, ei bod hi’n falch o gefnogi’r ymgyrch, sy’n cael ei threfnu gan Brosiect Spitfire AA810.

“Hedfanodd y PRU deithiau cudd a pheryglus iawn i dynnu lluniau cudd-wybodaeth,” meddai yn San Steffan.

“Roedd eu hawyrennau diarfog wedi eu gwagio i gludo cymaint o danwydd â phosibl.

“Am y rhesymau hyn, roedden nhw’n cynnwys gwrthwynebwyr cydwybodol ymhlith y criwiau.

“Roedd y gyfradd marwolaethau yn erchyll, gyda bron i 48% yn colli eu bywydau.

“Un oroesodd y PRU ydy Edward Bacon o’r Felinheli ger Caernarfon.

“Mae’r prosiect yn awyddus i estyn allan at deuluoedd i gasglu eu straeon, fel y bydd eu hanwyliaid yn fwy nag enw wedi’i gerfio ar gofeb ryfel.”

Y bwriad yw defnyddio injan o awyren PRU gafodd ddamwain ar yr Aran Fawddwy ym Meirionnydd ym 1944 yn rhan o’r gofeb.

Bu farw’r peilot Marek Ostaja-Slonski o Awyrlu Gwlad Pwyl a’r llywiwr Paul Richs ar y safle wrth ymarfer.

“Cynhaliodd y rhai oedd yn gwasanaethu yn y PRU rai o weithrediadau casglu cudd-wybodaeth mwyaf beiddgar y rhyfel, gan ddioddef colledion erchyll,” meddai Liz Saville Roberts.

“Eto i gyd, nid oes cofeb genedlaethol i anrhydeddu aberth yr oddeutu 800 o beilotiaid a llywyr o’r Deyrnas Unedig a hedfanodd y teithiau cudd-wybodaeth hollbwysig hyn.”

Ychwanega ei bod hi’n awyddus i ddysgu mwy am Edward Bacon, a’i bod hi’n annog unrhyw un sy’n ei gofio i gysylltu â Phrosiect Spitfire AA810.

Rôl “hanfodol”

Dywed Tony Hoskins, arweinydd y prosiect Spitfire AA810, fod aberth y peilotiaid yn “sylweddol” a bod y gydnabyddiaeth am eu cyfraniad “yn hirddisgwyliedig”.

“Am ryw 80 mlynedd, ni chydnabuwyd gwaith y rhai hedfanodd awyrennau diarfog, diamddiffyn ymhellach, yn uwch a chyflymach na’r rhai oedd wedi hedfan o’u blaen,” meddai.

“Ar gyfer rôl sy’n dal i fod o bwysigrwydd milwrol hanfodol heddiw, mae gennym y peilotiaid a’r swyddogion cudd-wybodaeth ddehonglodd ffotograffau i ddiolch iddyn nhw am y rhyddid rydym yn ei fwynhau heddiw.

“Gyda’n cofeb arfaethedig yn fwy nag enwau ar wal yn unig, diolchwn i Liz Saville Roberts am ei chefnogaeth i gasglu straeon diddorol y dynion a’r menywod ifanc hyn, gan gynnwys y Peilot Edward Gordon Bacon o’r Felinheli; heb eu hymdrechion, efallai y byddai hanes y gorllewin wedi cymryd llwybr gwahanol iawn.”