Mae pobol sy’n cymryd cyffuriau yng Nghymru’n “cymryd mwy a mwy o risgiau,” yn ôl llefarydd ar ran Barod, elusen sy’n cynnig cymorth i’r rheiny sy’n dioddef â phroblemau cyffuriau.
Daw’r sylw wedi i ffigurau gael eu chyhoeddi’r wythnos ddiwethaf sy’n dangos bod cyfradd y marwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau ar ei huchaf ers 1993.
Mae’r data newydd hefyd yn awgrymu bod gan Gymru gyfradd uwch o farwolaethau’n ymwneud â chyffuriau na phob un o ranbarthau Lloegr, ar wahân i’r gogledd-orllewin a’r gogledd-ddwyrain.
Yn ôl Barod, mae’n rhaid diwygio’r ddeddfwriaeth gyffuriau er mwyn medru mynd i’r afael â’r broblem.
Ystadegau
Mae’r data diweddaraf gan y swyddfa ystadegau yn dangos bod 377 o farwolaethau yng Nghymru yn 2023 yn gysylltiedig â defnyddio cyffuriau.
Mae hyn gyfystyr â 13 o farwolaethau ym mhob 100,000 o bobol yng Nghymru – y gyfradd uchaf ers i gofnodion gychwyn yn 1993.
Mae’n parhau â chynnydd di-dôr ddechreuodd yn 2012, wedi ugain mlynedd cymharol sefydlog.
Yn ôl llefarydd ar ran Barod, mae’r cynnydd hwn yn adlewyrchu tueddiadau ymddygiad ymhlith y rheiny sy’n dibynnu ar yr elusen.
“Mae’r rhai sy’n defnyddio cyffuriau’n cymryd mwy a mwy o risgiau,” meddai.
“Un peth rydym ni wedi sylwi dros y blynyddoedd diwethaf ydy cynnydd yn nifer y bobl rydyn ni’n eu helpu sy’n adrodd defnydd ‘poly,’ sef yr arfer o ddefnyddio mwy nag un cyffur ar unwaith.
“Mae defnydd ‘poly’ yn medru cynyddu’r risg yn sylweddol y bydd unigolyn yn profi gorddos.”
Ond mae cyd-destun cymdeithasol ehangach y tu hwnt i’r arferion defnyddio hyn.
“O’n profiad ni, mae hyn yn gysylltiedig â sawl ffactor cymdeithasol arall, gan gynnwys COVID, yr argyfwng costau byw, a chyfraddau amddifadedd,” meddai’r llefarydd wedyn.
“Mae defnydd cyffuriau’n rhan o broblem gymdeithasol ehangach sy’n aml yn gynsail i ymddygiad o’r fath.”
Gwahaniaethau rhanbarthol
Mae gwahaniaethau daearyddol sylweddol yng ngyfraddau’r marwolaethau.
Dydy’r gwahaniaethau hyn ddim yn adlewyrchu patrymau dinesig-gwledig cyfarwydd.
Yng Nghaerdydd, mae 9.8 ym mhob 100,000 o bobol yn marw yn sgil defnyddio cyffuriau.
Mae hyn yn sylweddol is nag yn Abertawe, sydd â’r gyfradd uchaf yng Nghymru, sef ugain ym mhob 100,000 o bobol.
Yn yr un modd, mae gan ranbarthau fel Powys (5.9 ym mhob 100,000) gyfraddau sylweddol is nag ardaloedd gwledig tebyg fel Sir Benfro (16.5 ym mhob 100,000).
Yn ôl Barod, er mai cyfraddau amddifadedd a thlodi sy’n bennaf gyfrifol am y gwahaniaethau hyn, mae’n rhaid cydnabod hefyd fod y sefyllfa a’r mathau o gyffuriau’n amrywio mewn ardaloedd lle mae nifer sylweddol o bobol o wahanol ddiwylliannau yn byw.
“Yn Abertawe, rydyn ni’n aml yn sylwi bod opioidau, a sylweddau eraill fel crac cocên a benzodiazepine, yn fwy cyffredin. Mae’r rhain yn cynyddu risgiau’n sylweddol.
“Dydy’r cyffuriau hynny ddim mor boblogaidd yn y brifddinas.”
‘Angen diwygio polisi cyffuriau’
Mae’r elusen hefyd yn rhwystredig nad yw’r ddeddfwriaeth gyffuriau bresennol yn addas i ymateb i’r cynnydd hwn.
“Rydyn ni’n credu bod angen rhywfaint o ddiwygio ar y polisi cyffuriau er mwyn galluogi gostyngiad yng nghyfraddau’r marwolaethau,” meddai’r llefarydd.
“Yn anffodus, rydyn ni wastad wedi gorfod ymdrin â gorddosau, ond rydyn ni’n ceisio’n gorau glas i leihau risgiau angeuol drwy gynnal ymyraethau ar seiliau gwyddonol, fel drwy ddosbarthu nodwyddi a chwystrellau a’r cyffur gwrth-opioid naloxone.
“Ond yn aml rydyn ni’n cael ein rhwystro gan y ddeddfwriaeth bresennol rhag gwneud beth sydd ei angen.
“Er enghraifft, mae marwolaethau’n sgil defnydd cocên yng Nghymru wedi cynyddu 25% ers 2022 ac 800% dros y ddeng mlynedd ddiwethaf.
“Ond dydyn ni ddim yn cael darparu offer sydd wedi’u profi i leihau’r risg i bobol sydd wedi defnyddio crac cocên, yn ôl Deddf Camddefnydd Cyffuriau 1971.”
Er nad yw’r data presennol yn gwahaniaethu rhwng marwolaethau yn sgil defnydd crac cocên a marwolaethau o ganlyniad i ddefnyddio cocên fel powdr, mae’r elusen yn awgrymu y gallai newid y polisi hwn arwain at ostyngiad yng nghyfraddau’r marwolaethau.
Mae Barod hefyd yn argymell fod unrhywun sy’n dioddef â phroblemau cyffuriau, neu sydd ag aelod o’u teulu’n dioddef, yn ymweld â’u gwefan.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Wrth ymateb, mae Llywodraeth Cymru’n pwysleisio nad yw deddfwriaeth ar gamddefnyddio cyffuriau wedi’i datganoli i’r Senedd.
“Mae pob marwolaeth sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn drasiedi, ac rydym yn buddsoddi £67m eleni mewn ymgais i leihau’r niwed sy’n cael ei achosi gan gamddefnyddio cyffuriau,” meddai llefarydd.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid ledled Cymru, gan gynnwys ein Byrddau Cynllunio Ardal, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r heddlu, i fynd i’r afael â chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol.
“Rydym hefyd yn parhau i ariannu Naloxone sy’n rhan allweddol o’n dull lleihau niwed.
“Mae gan bob heddlu yng Nghymru swyddogion sy’n cario Naloxone trwynol, sydd wedi helpu i achub bywydau, gyda thros 41,000 o becynnau eisoes wedi’u dosbarthu yng Nghymru.”