Mae nifer y plant yng Ngwynedd sy’n cael eu gwahardd o’r ysgol am fod yn ddrwg wedi cynyddu.
Fe fu cynnydd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, tra ei bod hi’n ymddangos mai bechgyn sy’n ymddwyn waethaf, yn ôl data.
Mae tua 60% o’r gwaharddiadau parhaol yn ysgolion y sir yn ymwneud â “tharfu parhaus”.
Mae’r gweddill yn ymwneud â “sarhau’n eiriol neu ymddygiad bygythiol tuag at ddisgyblion neu aelodau o staff, cyflenwi cyffuriau, ac ymosodiadau difrifol ar ddisgyblion eraill”, yn ôl adroddiad addysg Cyngor Gwynedd.
‘Ateb terfynol’
Cafodd ystadegau eu cyflwyno mewn adroddiad yn ystod cyfarfod diweddar o Bwyllgor Craffu Addysg ac Economi’r Cyngor.
Cafodd y manylion eu cyflwyno fel ymateb i gais gan y pwyllgor i asesu cynnydd yn erbyn argymhellion Estyn mewn adroddiad yn 2023.
Roedd y penderfyniad i wahardd disgybl yn barhaol yn cael ei ystyried yn “un difrifol ac yn ateb terfynol”.
Yn ôl yr adroddiad, wrth ddefnyddio gwaharddiad, mae’r ysgol yn cydnabod eu bod nhw “wedi defnyddio pob strategaeth sydd ar gael er mwyn mynd i’r afael â’r dysgwr”.
Ar gyfer y flwyddyn 2022-23 mewn ysgolion uwchradd, cafodd 452 o ddisgyblion waharddiadau cyfnod penodol, ac fe gafodd 44 waharddiadau parhaol.
Yn 2023-24, cododd y ffigurau hynny i 470 a 48.
Mewn ysgolion cynradd, cafodd 47 o ddisgyblion waharddiadau cyfnod penodol, gydag un gwaharddiad parhaol yn 2022-23.
Yn 2023-24, cododd y ffigurau i 57 a thri.
Cafodd 16 o ferched eu gwahardd yn barhaol yn 2022-23, ond fe gwympodd y ffigwr i ddeuddeg yn 2023-24.
Yn 2022-23, cafodd 30 o fechgyn eu gwahardd yn barhaol, ond fe gododd i 41 yn 2023-24.
‘Gwaith sylweddol’
O ran presenoldeb yn yr ysgol, nododd yr adroddiad fod “gwaith sylweddol” wedi’i wneud i wella’r sefyllfa dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys y defnydd o dechnoleg AI i ddadansoddi data, cyflogi mwy o swyddogion lles, a chynyddu’r gwaith o fonitro ysgolion a chofrestrau.
Roedd presenoldeb ar gyfartaledd yn y sir yn ystod y flwyddyn academaidd 2023-24 wedi codi i 89.1%, i fyny o 88.7% y flwyddyn academaidd gynt.
Roedd presenoldeb cyfartalog grwpiau penodol, gan gynnwys y rhai sy’n derbyn prydau ysgol am ddim, bellach wedi codi i 85.04%, disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol i 86.99%, a phlant sy’n derbyn gofal i 90.35%.
Ar draws y sector uwchradd, roedd lefelau “absenoldeb awdurdodedig” yn dal i gael eu hadrodd, a’r rheiny’n ymwneud â “salwch a lles emosiynol disgyblion”.
‘Heriau clir o hyd’
Nododd adroddiad y Cyngor fod “heriau clir” o hyd o ran “mynd i’r afael ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol sylweddol disgyblion yn yr oes ôl-bandemig”.
Does dim cynnydd sylweddol wedi’i wneud, ond mae “camau’n cael eu cymryd i ymateb i’r sefyllfa”, meddai.
Tra bu “gwelliant dros gyfnod o amser”, dywedodd y Pennaeth Addysg Gwern ap Rhisiart wrth y cyfarfod fod “tipyn o waith i’w wneud eto”.
Ledled Cymru, mae presenoldeb mewn ysgolion wedi dirywio ers i blant ddychwelyd i’r ysgol yn dilyn y pandemig, ond fe fu “adferiad araf”.
Nododd yr adroddiad hefyd fod gwella presenoldeb mewn ysgolion yn parhau i fod yn “flaenoriaeth” i’r awdurdod lleol a’u hysgolion.
Cafodd y pandemig “effaith sylweddol ar bresenoldeb”, er y bu rhai gwelliannau yn 2023-24.
Y gobaith yw y bydd “y strategaeth a’r sylw i bresenoldeb yn cefnogi gwelliant parhaus yn y blynyddoedd i ddod”.