Noder: Mae’r erthygl hon yn trafod pynciau a allai achosi pryder

Dod at hunanladdiad o ogwydd gwahanol yw bwriad elusen newydd fydd yn cael ei sefydlu’n fuan.

Un o brif orchwylion elusen Mesen fydd rhoi’r arfau i bobol allu ymateb a helpu anwyliaid sydd wedi dweud neu awgrymu eu bod nhw’n ystyried dod â’u poen i ben.

Ynghyd â hynny, mae Sioned Erin Hughes, Prif Lenor Eisteddfod Genedlaethol Tregaron, yn gobeithio y bydd yr elusen newydd yn cael gafael ar y wybodaeth a’r ymchwil mwyaf blaengar ac arbenigol ym maes hunanladdiad, a’i fod ar gael i bobol sy’n hunanleiddiol a’r rhai sy’n trio’u helpu.

Y gobaith yn y pendraw fydd gallu rhoi arian i rai sydd mewn crisis llwyr fel eu bod nhw’n cael therapi preifat ar unwaith.

Roedd y math yma o gefnogaeth ar goll pan oedd hi mewn “lle eithriadol, eithriadol o dywyll”, meddai’r awdur 24 oed o Geidio, Boduan yn Llŷn.

“[Y gobaith ydy] mynd ar ôl dysgu pobol sut i ymateb yn hytrach na rhoi gymaint o bwyslais ar ddweud wrth y dioddefwyr siarad… gwybod bod yr ymateb yna mewn lle, a’r camau gweithredu wedyn,” meddai Erin wrth golwg360.

“Y gobaith pellgyrhaeddol ydy bod yna ddigon o arian yna i roi i bobol sydd mewn crisis llwyr fel eu bod nhw’n cael therapi preifat i fynd ar wraidd pethau, yn lle eu bod nhw’n gorfod aros chwe mis.

“Mae hunanladdiad yn rywbeth sydd angen sylw yn syth bin, a does yna ddim rhestr aros i fod mewn sefyllfaoedd felly.

“Fel un sydd wedi trio hunanleiddio yn y gorffennol, dw i fel fyswn i’n licio llenwi’r bwlch gan fod y math yma o elusen ddim yna pan oeddwn i wirioneddol ei hangen hi.

“Dw i fatha fy mod i wedi creu’r genhadaeth yma’n seiliedig ar rywbeth oedd ar goll pan oeddwn i yn y lle eithriadol, eithriadol o dywyll yna.

“Dw i’n meddwl bod yr angen yn anferthol, dw i’n meddwl bod hunanladdiad yn rywbeth sydd, efallai, yn cael ei roi o’r neilltu weithiau jyst achos bod o mor fawr, mae pobol wirioneddol ofn sut i fynd o’i chwmpas hi.

“Dw i’n prysuro i bwysleisio hefyd bod rhaid cael cydymdeimlad at y staff yn y Gwasanaeth Iechyd, achos mae’r Gwasanaeth Iechyd ar ei gliniau a dim bai y staff ydy hynny, ond bai y system ehangach.

“Dydw i ddim yn pwyntio bys o gwbl at hynny ond, eto, mae o jyst yn rhywbeth dw i’n teimlo sydd angen digwydd ar lawr gwlad i weld newid achos dydy o ddim yn digwydd yn y system ehangach yn y Gwasanaeth Iechyd. Mae’n rhaid i rywbeth roi.”

‘Mesen o un rymusach’

‘Mesen’ oedd ffugenw Erin pan enillodd y Fedal Ryddiaith yn Nhregaron eleni am ei chyfrol o straeon byrion, Rhyngom, ond mae arwyddocâd pellach i enw’r elusen hefyd.

“Gwrando ar gân ‘Mesen’ gan Steve Eaves wnes i, a dallt mai geiriau Gerallt Lloyd Owen sydd yn y gân,” meddai.

Logo elusen Mesen, wedi’i ddylunio gan Sioned Medi

“Mae o’n adrodd ‘O’r dderwen wyf fesen fach / Mesen o un rymusach.’ Mae Steve Eaves yn ei dweud hi lot gwell na fi, ond jyst y dangos yma ein bod ni megis gronynnau bach ar y ddaear ond ein bod ni hefyd yn cael ein mawredd, ein llawn addewid.

“Dw i’n meddwl mai dyna dw i eisiau ei gael drosodd ydy i bobol beidio teimlo fel eu bod nhw’n ddim byd ar wyneb y ddaear, ond bod yna rywbeth ym mhawb.

“Mae gen i lot o ddiolch i’w roi i’r syniad yma o fesen, mae o wedi fy nghynnal i – y bach yma, ond bod yna fawredd iddo fo hefyd.”

Y disgwyl yw y bydd Mesen yn cael ei sefydlu fel elusen gofrestredig y flwyddyn nesaf, ond mae hi’n bosib i bobol gyfrannu nawr at y gronfa sydd ar fin cael ei hagor yn ffurfiol.

Gall pobol gyfrannu i’r gronfa drwy gysylltu ag Erin Hughes dros e-bost ar elusenmesen@gmail.com, neu mi fyddai hi’n croesawu gohebiaeth gan unrhyw un sydd eisiau cynnal digwyddiad yn lleol a chyfrannu’r elw tuag at y gronfa.

Rôl y byd addysg

Bydd Erin Hughes yn cynnal gweithdai efo Llenyddiaeth Cymru y flwyddyn nesaf, gan ymweld ag ysgolion i edrych ar sut mae sgrifennu yn helpu llesiant ac agweddau heriol ar iechyd meddwl.

Mae gan y byd addysg fwy o rôl i’w chwarae wrth addysgu plant am agweddau ar iechyd meddwl, meddai.

“Yn y byd delfrydol, i fi, dylai bod yna lot mwy o hynny’n digwydd – bod yna fwy o bwyslais yn y system addysg ar bethau sydd wirioneddol yn mynd i wynebu’r mwyafrif ohonom ni yn ein bywydau yn hytrach na rhoi sylw i’r pethau yma fyddan ni, efallai, ddim yn elwa ohonyn nhw o gwbl yn y dyfodol.

“Yn amlwg, ti ddim eisiau dychryn plant am y gwirioneddau yma sy’n gallu digwydd ym mywydau pobol, ond dw i yn meddwl y dylai iechyd meddwl, o leiaf, gael ei blethu mwy mewn i’r cwricwlwm.

“Mae o’n oedran mor sensitif a delicet, a dw i’n meddwl y bysa yna gymaint o bobol ifanc a phlant yn elwa ar y wybodaeth fwyaf blaengar yn y byd iechyd meddwl pan maen nhw’r oedran yna.

“Mae o’n rywbeth fydd ganddyn nhw am weddill eu bywydau wedyn.

“Mae’r byd addysg yn chwarae rôl mor anferthol ym mywydau plant a phobol ifanc, felly mae’n rhaid gwneud yn siŵr bod yr hyn maen nhw’n ddysgu [yn yr ysgol] yn bethau allan nhw gael ei arfogi efo nhw am weddill eu bywydau wedyn.”

 

Erin Hughes

Sioned Erin Hughes yn ennill y Fedal Ryddiaith

Testun y gystadleuaeth eleni oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun ‘Dianc’