Mae Cymraes sydd wedi symud i Seland Newydd wedi dechrau gyrfa newydd yn helpu menywod yn ystod beichiogrwydd, geni, a’r cyfnod ar ôl genedigaeth eu plant.
Er bod Lliwen MacRae wedi mudo o Lanuwchllyn, mae hi’n gweithio â nifer o ferched o Gymru.
Symudodd efo’i gŵr Gareth, sy’n dod o Seland Newydd, a’u merched, Manw, Nara a Nant flwyddyn yn ôl.
Mae hi’n teimlo’r angen i gynnig gwasanaeth Cymraeg i ferched beichiog a mamau yma.
Angen gwasanaeth Cymraeg
Ar ôl mudo, bu Lliwen MacRae yn astudio cwrs mewn Life Coaching and Hypnobirthing, yn bennaf er mwyn cadw ei hun yn ddiddig, gyda’r bwriad o gynnig cefnogaeth a chymorth i fenywod yn ystod beichiogrwydd, geni a’r cyfnod fel mamau newydd.
“Dechreuodd y syniad wedi imi roi geni i Nant adref yn Llanuwchllyn mewn pwll dwr, a chael ffasiwn foddhad o’r holl broses enedigol,” meddai.
“Roeddwn yn teimlo yn angerddol iawn bod merched yn cael y cyfle i wneud eu dewisiadau eu hunain ar gyfer yr enedigaeth, boed hynny yn enedigaeth mewn ysbyty, neu adref.
“Wedi imi ddod yma i Seland Newydd i fyw, dyma benderfynu canolbwyntio ar y syniad a sefydlu busnes sydd yn cynnig cymorth i ferched.”
Mae hi wedi cymhwyso fel Anogwr Personol Achrededig Rhyngwladol, ac mae hi’n Hyfforddwr Geni Grymus cymwys – sef hyfforddwr mewn ‘hypnobirthing‘.
“Er fy mod yn byw yma yn Seland Newydd rwyf yn gweithio ran fwyaf ar-lein gan fy mod yn gweithio efo llawer Iawn o ferched o Gymru.
“Dw i’n teimlo bod yna angen i gynnig gwasanaeth Cymraeg, gonest, hawdd i’w fynychu i ferched beichiog a mamau yng Nghymru.”
Yn ystod y cyfnod clo, sefydlodd grŵp Geni ar Facebook a bu sawl trafodaeth a sgwrs gan ferched o Gymru am eu genedigaethau.
“Dwi wastad wedi mwynhau gwrando ar straeon geni eraill ac mi roedd y grŵp yn gyfle imi holi merched am eu profiadau a’u teimladau,” meddai.
“Mae’r grŵp yma wedi fy nghynorthwyo yn y penderfyniad i fynd ymlaen i sefydlu’r busnes yma.”
‘Rhoi rheolaeth i fenywod’
Ar hyn o bryd, mae’n cynnig pedwar cwrs, dau yn ymwneud â Geni Grymus a’r ddau arall yn gweithredu fel Anogwr Personol.
Pwrpas y Cwrs Geni Grymus ydy helpu merched i baratoi yn feddyliol am yr enedigaeth.
Dechreuodd ei chwrs cyntaf ym mis Hydref, ac mae hi’n gobeithio clywed gan ragor o fenywod o Gymru.
“Byddaf yn helpu efo technegau meddylfryd ac yn ei dysgu am yr opsiynau gwahanol sydd ar gael i ferched yn ystod beichiogrwydd,” meddai.
“Mi fyddaf hefyd yn rhoi’r hyder i chi gadw’r rheolaeth a’r pŵer o fewn eich gafael chi.
“Mae o mor bwysig i bob merch gofio mai chi sydd yn rhoi geni i’r babi yma, chi sydd gyda’r dewis a’r hawliau.
“Mae’r pwysigrwydd a’r cysylltiad rhwng y meddwl a’r corff yn anhygoel.
“Mae’n hanfodol bod y ddynes yn cael lle i deimlo’n saff yn ystod geni i gael tawelwch meddwl, i helpu’r corff wneud yr hyn mae angen ei wneud yn ystod genedigaeth.”