Wrth i ni ddilyn cynhadledd COP27 yn yr Aifft, cawn ein hatgoffa o’r argyfwng sydd yn wynebu’r ddaear hon.
Ond sut allwn ni yma yng Nghymru leihau ein hôl-troed carbon a dileu ein heffaith negyddol ar yr hinsawdd?
Mae maint eich ôl-troed carbon yn dibynnu ar wahanol ffactorau.
Y prif ffactor yw faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu rhyddhau i’r atmosffer gan weithgareddau penodol.
Mae eich ôl-troed yn cynnwys amrywiaeth o ffynonellau – sut ydych yn teithio o le i le, y bwyd rydych chi’n ei fwyta, a’r dillad rydych chi’n eu prynu.
Po fwyaf yw eich ôl-troed, y trymaf fydd y straen ar yr amgylchedd.
Mae gan bobol, cynnyrch a diwydiannau cyfan ôl-troed carbon.
Er mwyn osgoi mwy o ddifrod i’r ddaear, mae angen symud mewn camau bychain – a mawrion – i sicrhau dyfodol i’r blaned.
Ond sut mae pobol ifanc Cymru yn mynd ati i leihau eu heffaith negyddol ar y blaned? Mae golwg360 wedi bod yn holi rhai ohonyn nhw…
Mae Bryn James o Abertawe, sy’n 24 oed, wedi gwneud newidiadau “aml bwrpas, ar gyfer iechyd, ac hefyd am yr amgylchedd” ac mae’r ddau yn plethu gyda’i gilydd.
“Dwi’n trio bwyta llai o gig, mae hwnna’n bwysig iawn, ac hefyd trio prynu cig lleol Cymreig os dwi’n gallu, os dwi’n gallu fforddio fe,” meddai.
Mae rhai yn dewis torri cig neu fwydydd sy’n cynnwys llaeth allan o’u deiet.
Mae effaith da byw ar allyriadau yn amrywio rhwng gwledydd. Yn fyd-eang, mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif ei fod yn cyfrif am fwy na 14% o’r holl nwyon tŷ gwydr sy’n dod o weithgareddau dyn – gan gynnwys methan, sydd 34 gwaith yn fwy niweidiol i’r amgylchedd na thros 100 mlynedd o garbon deuocsid.
Mae hyn yn rhannol oherwydd bod rhai o fesuriadau carbon deuocsid y diwydiant cig yn cynnwys allyriadau o brosesu, pecynnu a chludo, yn hytrach na’r broses o ffermio yn unig.
Yn lle torri cig allan o’u diet yn llawn, mae rhai yn bwyta’n lleol sy’n golygu dewis bwyd sy’n cael ei dyfu a’i gynaeafu yn agos at ble rydych chi’n byw, ac yna’n cael ei ddosbarthu dros bellteroedd byrrach nag sy’n arferol.
Mae’r gallu i fwyta’n lleol yn dibynnu ar allu cynhyrchu eich ardal.
Yn aml mae gan bobol sy’n byw mewn rhanbarthau a chynhyrchiant amaethyddol uchel ddewis eang o fwyd lleol i ddewis ohonynt.
O gefndir ffermio mae Luned Hughes, 21, o Benllyn sy’n dweud bod “gan bawb ran i’w chwarae”.
“Yng nghefn gwlad, dwi’n meddwl ei bod hi’n hawdd iawn diystyru newid hinsawdd fel rhywbeth sydd jyst yn digwydd mewn dinasoedd,” meddai.
“Dwi’n credu’n fawr mai un o’r ffyrdd gorau o leihau allyriadau yw gwirio lle mae’r bwyd lle rydan ni’n fwyta yn dŵad. Mae’n hawdd prynu gan y cigydd lleol neu brynu wyau a llefrith o’r ffarm agos.
“Mae diwydiant amaeth Cymru yn un o’n hasedau gorau ni, a dw i’n meddwl y dylai pawb gymryd mantais o hynny, yn lle bo ni’n dibynnu ar fewnforio bwydydd mwy trendi, neu eco-gyfeillgar o wledydd tramor sydd yn ei hun yn creu mwy o allyriadau carbon wrth fewnforio.
“Mae’r cynnyrch sydd gynnon ni yng Nghymru yn gynnyrch iach sydd gynnon ni drwy’r flwyddyn i gyd.”
Mae dewis prynu eich bwyd o ffynonellau lleol yn dileu’r angen am gludiant tanwydd dwys.
Mae’r opsiwn gyda ni yma yng Nghymru i ddewis cynnyrch o ffermydd organig a chynaliadwy i leihau effaith amgylcheddol ein bwyd.
Teithio’n gynaliadwy
Mae nifer yn seiclo yn lle gyrru ar lonydd ein gwlad erbyn hyn.
Gyda fwyfwy o lonydd seiclo, daeth yn haws ac yn fwy diogel neidio ar y beic i fynd o le i le.
“Does dim angen car arna i,” meddai Bryn James, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, gan ei fod yn gallu “seiclo o amgylch y ddinas” yn hawdd.
Yn yr un modd, seiclo yn lle gyrru mae Alexa Price o Gastell-nedd, sy’n 20 oed, yn ei wneud er mwyn lleihau ei hôl-troed carbon.
“Nid yn unig mae’n ffordd anhygoel o gadw’n heini, ond hefyd rydych chi’n lleihau eich hôl-troed carbon.
“Yng Nghaerdydd mae yna gymaint o lonydd seiclo yn ogystal â schemes fel ‘Next Bike’, lle rydych chi’n rhentu beic am bron i ddim byd – ffordd rili gyflym o fynd i lefydd hefyd, mae seiclo yn cymryd lot llai o amser na cymryd tacsis.”
Pe bai dim ond 10% o’r boblogaeth yn newid ymddygiad teithio, byddai’r arbedion allyriadau yn gyfystyr â rhyw 4% o allyriadau carbon o bob taith car.
Sut all dillad ail law achub y byd?
Wrth i ni barhau i annog y diwydiant ffasiwn i symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy a moesegol, mae’n ddefnyddiol gwybod o le mae ein dillad yn dod.
Mae ffasiwn gyflym yn ddull dylunio, gweithgynhyrchu a marchnata sy’n canolbwyntio ar gynhyrchu llawer iawn o ddillad yn gyflym, yn rhad ac o ansawdd isel.
Mae’r darnau rhad, ffasiynol hyn wedi arwain at ormod o gynnyrch yn y diwydiant.
Arweinia wedyn at effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd, ac i’r gweithwyr yn y ffatrïoedd wrth iddyn nhw weithio mewn amodau gwael iawn.
I leihau’r effaith mae’r diwydiant yma’n ei chael ar yr amgylchedd, mae llawer wedi troi at siopau ail law.
Mae Matthäus Bridge, 23, o Gasnewydd yn anwybyddu’r brandiau mawr ac yn siopa mewn siopau elusen yn lle.
“Dw i wedi darllen lot o faint o adnoddau naturiol mae Asos a Boohoo yn defnyddio, a hefyd maen nhw’n gweithio tuag at lygredd aer a llygredd dŵr,” meddai.
“Hefyd, dw i’n gwneud yn siŵr bod y dillad sydd ddim yn ffitio fi mwyach yn cael eu hailgylchu.”
Mae llawer o frandiau mawr fel Pretty Little Thing yn un o fanwerthwyr ffasiwn cyflym mwyaf y Deyrnas Unedig.
Maen nhw’n talu cyn lleied â £2 i £3 yr awr i’r gweithwyr yn eu ffatrïoedd yng Nghaerlŷr.
Ailgylchu, ailddefnyddio, ac arbed arian
Myfyriwr ail flwyddyn 20 oed ydy Nel Clarke o Wrecsam, sy’n dweud ei bod hi wedi bod yn “fwy gofalus hefo safio trydan ac egni fyth, yn enwedig hefo’r energy crisis yma ym Mhrydain”.
Mae hyn wedi ei helpu i ddeall sut i leihau ei hôl-troed carbon hefyd.
Mae siopau dim-gwastraff ar gynnydd ar draws y wlad, wrth i fwy o bobol ddod yn ymwybodol o’r hyn sydd yn digwydd i’r blaned.
Mae 95% o’r holl blastig gafodd ei greu erioed yn dal i fod heddiw.
Gall siop dim-gwastraff agor i fyny lawer o ddewisiadau amgen i chi wrth ddod yn fwy eco-gyfeillgar, wrth leihau ac ailddefnyddio cynhyrchion gwastraff sy’n ceisio lleihau llygredd.
“Ar ôl darganfod siop zero waste ‘Ripple’ yng Nghaerdydd ac wedi sylwi bod o’n weddol fforddiadwy, dw i’n tueddu mynd i brynu pastas, reis, lentils, oats o fan’na gan bo nhw’n cynnig poteli wedi’i donate-io i’r siop i’w hailddefnyddio.
“Gallwch chi hefyd ddod ag unrhyw jariau/pots plastig eich hunain hefyd!”
Ydych chi, ddarllenwyr golwg360, yn barod i wneud rhai o’r newidiadau hyn i geisio achub ein daear?