A hithau’n Wythnos Wrth-fwlio yr wythnos hon, mae Dominic Raab wedi gofyn i’r Prif Weinidog Rishi Sunak gynnal ymchwiliad i ddwy gŵyn ffurfiol ynglŷn â’i ymddygiad.

Dywed Ysgrifennydd Cyfiawnder a Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig fod y cwynion yn ymwneud â dau gyfnod blaenorol tra ei fod yn weinidog yn y Cabinet.

Ychwanega y bydd yn “cydweithredu’n llawn” ag unrhyw ymchwiliad.

Mae Dominic Raab wedi’i gyhuddo mewn sawl erthygl bapur newydd o fwlio swyddogion mewn rolau blaenorol, er ei fod gwadu hynny.

Mewn llythyr at Rishi Sunak, dywed yr Ysgrifennydd Cyfiawnder nad yw e “erioed wedi goddef bwlio” a’i fod “wastad wedi ceisio atgyfnerthu a grymuso” gweision sifil.

Ychwanega fod y cwynion yn ymwneud â’i gyfnod yn Ysgrifennydd Cyfiawnder ac yn Ysgrifennydd Tramor o dan arweinyddiaeth y cyn-Brif Weinidog Boris Johnson.

Mae disgwyl i Dominic Raab fod yn Nhŷ’r Cyffredin am hanner dydd heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 16), i ddirprwyo dros Rishi Sunak yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog.

Bydd yn wynebu cwestiynau gan Angela Rayner o’r Blaid Lafur ac aelodau seneddol ar y meinciau cefn.

Dywedodd Rishi Sunak ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 15) nad oedd e’n ymwybodol o unrhyw gwynion ffurfiol yn erbyn ei Ddirprwy Brif Weinidog.