Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi brolio’r “cysylltiadau cryfach fyth” rhwng Cymru a’r teulu brenhinol, yn dilyn ymweliad Tywysog a Thywysoges Cymru â’r Senedd.

Roedd William a Catherine yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 15), ar y diwrnod pan oedd carfan bêl-droed Cymru yn paratoi i deithio i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd, y tro cyntaf iddyn nhw gymhwyso ers 1958.

Daeth yr ymweliad brenhinol drannoeth ymweliad William â charfan bêl-droed Lloegr i gyflwyno rhifau eu crysau iddyn nhw ar gyfer y gystadleuaeth.

Mae rhai wedi beirniadu’r ymweliad, gan y bydd Cymru a Lloegr yn chwarae yn yr un grŵp yn Qatar.

Ond mae eraill, fel Andrew RT Davies, yn falch o’r cyfle i gryfhau’r cysylltiadau rhwng Cymru a’r teulu brenhinol.

‘Pleser’

“Roedd hi’n bleser croesawu Tywysog Cymru i’r Senedd heddiw i drafod dyfodol ein cenedl wych a’r rôl y bydd yn chwarae ynddi, yn ogystal â’r achosion mae’n eu hyrwyddo ynghylch iechyd meddwl a’r amgylchedd y mae llawer o bositifrwydd tuag ato,” meddai Andrew RT Davies.

“Ar ôl ymweliad diweddar y Brenin a’r Frenhines, mae’n wych gweld y clymau rhwng Cymru a’n Teulu Brenhinol yn dod yn gryfach fyth.

“Mae ewyllys da enfawr tuag at y Tywysog a’r Dywysoges yng Nghymru, a dw i’n gwybod y bydd croeso cynnes iddyn nhw bob amser pryd bynnag y byddan nhw’n dod ar ymweliad.”

 

‘Cefnogaeth Tywysog William i dîm Lloegr yn dangos pa mor gymhleth ydy cael Tywysog Cymru sydd ddim yn Gymro’

Cadi Dafydd

Colofnydd gwleidyddol yn rhagweld y bydd y teulu brenhinol wedi cael gwared ar y teitl erbyn y daw hi’n amser i goroni brenin newydd ar ôl Charles