Mae un o sylwebwyr gwleidyddol Cymru’n rhagweld y bydd teulu brenhinol Lloegr wedi cael gwared ar y teitl ‘Tywysog Cymru’ erbyn y daw hi’n amser i goroni brenin newydd ar ôl Charles III.
Bydd Theo Davies-Lewis yn rhoi araith am ddyfodol Tywysog Cymru yn Llanelli nos Iau (Tachwedd 17), gan ganolbwyntio ar sut mae’r ychydig fisoedd ers marwolaeth Elizabeth II yn dangos bod dylanwad y teulu brenhinol wedi gwanhau yn ddiweddar.
Yn ôl y colofnydd, mae cyfuniad o gamgymeriadau gan Balas Kensington a chlymblaid gref rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru’n golygu nad oes gan William “fwlch gwleidyddol” i fod yn dywysog yn yr un ffordd â’i dad.
Mae’r Tywysog William wedi derbyn beirniadaeth o Gymru am ddatgan ei gefnogaeth i dîm pêl-droed Lloegr, a fydd yn wynebu Cymru ymhen pythefnos, yng Nghwpan y Byd.
‘Camgymeriadau strategol’
O safbwynt brenhinwyr, mae’r cam hwnnw’n “gamgymeriad strategol”, yn ôl Theo Davies-Lewis.
Yn fwy na hynny, mae’n adlewyrchu pa mor gymhleth ydy bod yn Dywysog Cymru pan nad ydych chi’n Gymro, meddai.
“Gallai rhai pobol feddwl bod dim byd yn bod ag e gan fod e’n Sais, sydd yn wir. Ond fel Tywysog Cymru, a’r ffaith bod e wedi cymryd y rôl yma dros yr haf, dyw e ddim yn edrych fel bod y teulu brenhinol wedi meddwl am hyn a pha mor gymhleth mae’n gallu bod,” meddai’r colofnydd wrth golwg360.
“Dydych chi ddim yn gallu rhoi bai ar William yn bersonol.”
Nid dyma’r unig gamgymeriad strategol i’r teulu brenhinol ei wneud, meddai.
“Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n cymryd Cymru o ddifrif ond dyw William ddim yn siarad Cymraeg… gallai hwnna fod wedi rhoi neges fawr allan.
“Beth bynnag ydych chi’n feddwl, dw i’n credu bod pobol yn disgwyl, os oes gyda ni dywysog, bod e’n adlewyrchu Cymreictod mewn rhyw ffordd, a dydyn nhw heb wneud hynna.
“Dw i’n siŵr eu bod nhw wedi meddwl am ba mor gymhleth yw e, ond y ffaith eu bod nhw wedi gwneud y dewis yma, a bod William wedi dod ma’s i gefnogi tîm pêl-droed Lloegr cyn i Gymru fynd i’r Cwpan Byd cyntaf ers degawdau, mae e’n rhyfedd iawn.
“Mae’r ymateb yn dangos beth mae’r Cymry yn feddwl, ac ein bod ni’n gwneud tipyn bach mwy o sŵn nawr.”
Natur Cymru’n newid
Yn ôl y colofnydd ifanc, mae Cymru’n mynd drwy “lot o newid”, ac mae’n gweld patrwm lle mae natur y wlad yn newid bob rhyw 20 i 25 mlynedd.
Mae o’r farn y bydd y teulu brenhinol wedi cael gwared ar deitl Tywysog Cymru eu hunain erbyn y bydd hi’n amser cael brenin newydd arall.
“Dw i ddim yn meddwl y bydd y capital gwleidyddol ganddyn nhw erbyn hynny, a bydd hynny’n wir iawn os ydyn nhw’n cadw i fynd yn y ffordd maen nhw wedi dros y tri mis diwethaf.”
O edrych ar arolygon barn, mae cefnogaeth i’r teulu brenhinol ledled Cymru, eglura.
“Ond y ddadl dw i’n ei gwneud yw bod pethau wedi newid yn eithaf araf dros y degawdau yng Nghymru, ond ein bod ni’n dechrau gweld dros y ddwy neu dair blynedd ddiwethaf bod yr ymateb i’r teulu brenhinol tamaid bach yn fwy cryf ac yn wahanol i lefydd eraill ar draws Prydain.”
Pŵer y Gymru fodern
Mae hi’n bosib gweld bod cenhedlaeth ifanc o Gymry’n cwestiynu mwy ar yr angen am gael tywysog, meddai Theo Davies-Lewis, ac mae’n bosib gweld yr un peth wrth edrych ar yr ymateb gwleidyddol i gyhoeddiad Charles III am Dywysog Cymru.
Roedd dewis i’r Brenin Charles gyhoeddi William fel Tywysog Cymru yn ei araith gyntaf yn “bwrpasol iawn”, meddai Theo Davies-Lewis gan ddweud bod hynny wedi arwain at yr ymateb gwleidyddol yng Nghymru.
“Roeddech chi’n gweld rhyw fath o glymblaid ffurfiol yn datblygu gyda ffigurau o Lafur a Phlaid Cymru’n dod ma’s yn gyhoeddus, ac yn dylanwadu ac yn bod yn glir iawn am beth ddylai William ei wneud, beth dyw e ddim yn gallu ei wneud, a ddylen ni gael arwisgiad neu ddim?
“O fy mhersbectif i fel colofnydd, beth sy’n stori fawr yw ein bod ni’n gweld gwleidyddion Cymreig yn bihafio tuag at y teulu brenhinol yn gwbl wahanol i fel y byddech chi’n gweld gwleidyddion eraill ar draws Prydain.
“Roedden nhw’n gwbl hyderus ddydd ar ôl dydd yn dweud beth ddylai William ei wneud, ac i fi mae hwnna’n dangos le mae’r pŵer nawr yn y Gymru fodern.
“Pan ddaeth William i Gymru’r tro cyntaf wythnosau yn ôl, fe wnaeth Palas Kensington roi ma’s datganiad yn dweud ‘Fydden ni ddim yn cael ailadrodd o ‘69’.
“Dw i’n meddwl bod hwnna’n dangos y dylanwad gafodd yr ymateb gwleidyddol ar y teulu brenhinol, a ble mae’r pŵer nawr.”
‘Dim lle i fod yn dywysog fel Siarl’
Mae Theo Davies-Lewis o’r farn bod y Tywysog Siarl, fel yr oedd, yn deall bod pethau’n newid, ond mai’r newid nawr yw bod gan Fae Caerdydd bŵer “eithaf sylfaenol”.
“Os ydych chi’n edrych ar ffigurau fel Mark Drakeford ac Elin Jones, maen nhw yn ffurfiol ond mae e’n eithaf clir be’ maen nhw’n meddwl yn bersonol a dw i’n credu bod hynna’n adlewyrchu le mae Cymru’n mynd ar hyn o bryd.
“Rydyn ni’n siarad gan mlynedd ar ôl i Lafur ennill y mwyaf o seddi mewn Etholiad Cyffredinol, a dw i’n credu bod yna egni yn y Blaid Lafur nawr.”
O safbwynt gwleidyddol y peth cywir i Lywodraeth Cymru ei wneud yw bod yn ffurfiol a chydweithio â Thywysog Cymru, meddai Theo Davies-Lewis.
“Ond efo Mark Drakeford, mae’n sefyllfa eithaf cymhleth – y llinell yna rhwng y personol a’r gwleidyddol a beth bynnag maen ei wneud fel Prif Weinidog.
“Dw i’n credu ei fod wedi bod yn eithaf tactegol ac wedi egluro’n glir iawn yn gyhoeddus, nid jyst i’r tywysog ond i’r bobol gyffredin a brenhinwyr ar draws y wlad, sut mae Cymru’n newid.
“Mae [William] yn gwybod yn glir iawn nad oes gyda’r fe’r lle neu’r bwlch gwleidyddol i fod yn dywysog yn yr un ffordd ag oedd Siarl.”