Mae cannoedd o ddysgwyr yn disgwyl i gael eu paru â siaradwyr Cymraeg er mwyn magu eu hyder.

Er bod cannoedd o ddysgwyr ledled y wlad yn rhan o gynllun ‘Siarad’ y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae galw am ragor o siaradwyr Cymraeg i ymuno â’r prosiect.

Nod y cynllun ydy rhoi cyfle i ddysgwyr fagu hyder trwy sgwrsio yn Gymraeg, a chyflwyno cyfleoedd iddyn nhw ddefnyddio eu Cymraeg yn lleol.

Cynyddu nifer y siaradwyr

Un o’r siaradwyr sydd wedi bod yn rhan o’r cynllun ers blynyddoedd ydy’r gyflwynwraig deledu Branwen Gwyn, sydd wedi’i pharu ag Angela Yeoman.

“Y rheswm wnes i ymuno yn y cynllun oedd am fy mod i eisiau helpu pobl i ddysgu Cymraeg,” meddai Branwen Gwyn.

“Mae’n gyfle gwych i gynyddu’r nifer o bobl sy’n hyderus yn eu Cymraeg.

“Mi oeddwn i’n hapus iawn o gael fy mharu gydag Angela. Mae hi’n siarad Cymraeg mor dda, er nad ydy hi’n sylweddoli hynny’n llawn!

“Mi oedd y sgwrs mor rhwydd fel bod awr yn hedfan yn ei chwmni. Mae’n berson mor hapus a byrlymus.

“Mae’n bwysig cofio nad ydych chi yna i fod yn athro neu athrawes – dydy o ddim byd fel’na.

“Jyst sgwrsio sydd angen ei wneud – ac os ydych chi awydd ymuno yn y cynllun, ewch amdani, pam lai?

“Mae’n grêt mynd i ddosbarth Dysgu Cymraeg, ond mae angen cynnig cyfleoedd i sgwrsio efo siaradwyr Cymraeg tu allan i’r dosbarth.

“Mi fyddwch chi’n gwneud gwaith gwerthfawr iawn yn helpu pobl fagu hyder yn eu Cymraeg.”

Cynyddu hyder

Meddai Angela Yeoman: “Cyn cychwyn y cynllun Siarad, roeddwn i’n iawn yn siarad Cymraeg gyda dysgwyr eraill ond cyn gynted o’n i’n cyfarfod siaradwyr iaith gyntaf, doeddwn i ddim yn gyfforddus o gwbl yn siarad Cymraeg.

“Ond mae Branwen wedi gwneud i mi deimlo yn gartrefol o’r sesiwn gyntaf un – yn siarad am bethau fel y gath, mynd â’r car am MOT, pwy o’r teulu oedd efo Covid neu yn hunan ynysu, pethau arferol bywyd!”

‘Cyfle i sgwrsio’

Mae’r dysgwyr sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn dilyn cyrsiau lefel Canolradd, Uwch neu Gloywi, sy’n golygu eu bod nhw’n gallu cynnal sgwrs yn gyfforddus yn Gymraeg.

Ychwanegodd Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg, bod angen ymarfer wrth ddysgu unrhyw sgil newydd.

“Roeddem ni eisiau rhoi cyfle i siaradwyr newydd sgwrsio rhwng gwersi ond hefyd eu cyflwyno i gyfleodd yn y gymuned i siarad Cymraeg,” meddai.

“Rydym yn gofyn am ymrwymiad o ddeg awr – ac mi all hynny fod tra’n sgwrsio dros baned, mewn gêm bêl-droed, yn y côr, wrth fynd am dro neu le bynnag sy’n apelio.”

Mae galw am bobl ar draws Cymru ac mae modd cofrestru trwy ymweld â gwefan Dysgu Cymraeg neu e-bostio swyddfa@dysgucymraeg.cymru