Mae cynghorau ledled Cymru wedi cael rhybudd mai dwy flynedd sydd ganddyn nhw i wella democratiaeth leol, ar ôl i adroddiad newydd dynnu sylw at “broblemau mawr” gyda’r etholiadau diweddaraf ym mis Mai.
Mae’r adroddiad newydd gan ymgyrchwyr o Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol (ERS) Cymru yn amlygu bod degau o seddi wedi cael eu hennill heb etholiad eleni.
Ynghyd â hynny, maen nhw’n tynnu sylw at broblemau gyda’r system Cyntaf i’r Felin bresennol.
Daw hyn wrth i gynghorau lleol yng Nghymru gael cyfle i newid systemau pleidleisio, gyda phob cyngor bellach yn gallu pleidleisio i symud i system y bleidlais sengl drosglwyddadwy (STV).
O dan y system STV, mae pleidleiswyr yn gosod ymgeiswyr yn nhrefn blaenoriaeth trwy farcio 1, 2, 3 ac yn y blaen.
Gall pleidleisiwr raddio cymaint neu gyn lleied o ymgeiswyr ag y maen nhw’n dymuno, neu bleidleisio dros un ymgeisydd yn unig.
Mae angen i bob ymgeisydd gyrraedd cwota i gael ei ethol.
Bydd yn rhaid i gynghorau bleidleisio i symud i STV erbyn Tachwedd 15, 2024 – ddwy flynedd i heddiw – er mwyn i hyn ddod i rym ar gyfer yr etholiadau lleol nesaf yn 2027.
Canfyddiadau
Fe wnaeth dadansoddiad o etholiadau lleol Cymru 2022 ddangos bod 74 o seddi yng Nghymru yn ddiwrthwynebiad, sy’n golygu na chafodd dros 100,000 o bleidleiswyr ddewis pwy sy’n eu cynrychioli yn eu cyngor lleol.
Mae wyth cyngor yng Nghymru hefyd efo ‘mwyafrifoedd heb eu hennill’ lle mae plaid yn dal dros 50% o’r seddi ar lai na 50% o’r bleidlais.
Mae’r adroddiad hefyd yn cymharu etholiadau lleol Cymru yn 2022 ag etholiadau lleol yr Alban, lle mae STV wedi cael ei ddefnyddio ers 2007.
Daethon nhw i’r casgliad bod canlyniadau etholiadau’r Alban yn fwy cyfrannol, gyda dim ond dau awdurdod lleol yno â ‘mwyafrifoedd heb eu hennill’, sef dim ond 6% o gynghorau o gymharu â thros draean yng Nghymru.
Fe wnaeth yr adroddiad hefyd ganfod fod nifer y seddi diwrthwynebiad wedi lleihau’n sylweddol yn yr Alban o dan system STV, gyda chyfanswm o 27 o seddi diwrthwynebiad yn y pedwar etholiad ers i’r system newid, o gymharu â 61 yn yr etholiad diwethaf dan y drefn Cyntaf i’r Felin.
Cyfle i ddilyn arweiniad yr Alban
“Mae ein hymchwil yn dangos darlun llwm o system bleidleisio sydd ddim yn gweithio ar gyfer pleidleiswyr yng Nghymru,” meddai Jess Blair, Cyfarwyddwr ERS Cymru.
“Dylai pawb allu mynd i orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad gan wybod y bydd eu pleidlais yn cyfrif.
“Ond i dros 100,000 o bobol, cafodd eu hetholiadau eu canslo fis Mai eleni gyda’r enillwyr yn cael eu datgan heb un bleidlais.
“I filiynau yn rhagor, nid oedd unrhyw sicrwydd y byddai eu pleidlais o bwys nac yn cael ei hadlewyrchu yn y canlyniad.
“Y newyddion da yw fod dewis arall.
“Mae’r adroddiad hwn yn amlygu cymaint o welliant sydd wedi bod yn yr Alban wrth symud i STV, gan leihau nifer y seddi diwrthwynebiad a gwneud i bleidleisiau gyfrif cymaint yn fwy.
“Mae gennym ni gyfle i ddilyn arweiniad yr Alban ac i bob cyngor yng Nghymru bleidleisio i symud i STV.
“Mae’n rhaid i gynghorwyr amgyffred a phleidleisio dros y newid mawr ei angen yn y ddwy flynedd nesaf er mwyn sicrhau democratiaeth leol gref i Gymru.”