Bydd gofal plant am ddim yn cael ei gynnig i fwy o deuluoedd yng Nghymru o hyn ymlaen.
Dan y drefn newydd, gall rhieni sydd mewn addysg neu hyfforddiant wneud cais am y Cynnig Gofal Plant, a chael hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi’u hariannu gan y llywodraeth ar gyfer plant tair a phedair oed.
Cyn hyn, roedd y cynnig ar gyfer rhieni sy’n gweithio yn unig.
Mae gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd wedi cael ei lansio hefyd, er mwyn symleiddio’r Cynnig Gofal Plant.
Ar hyn o bryd, mae’r Cynnig yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol sy’n defnyddio gwahanol systemau i brosesu ceisiadau a thalu darparwyr gofal.
Yn sgil y gwasanaeth digidol newydd, bydd pob awdurdod lleol, rhiant a darparwr gofal yn defnyddio’r un system.
‘Gwasanaeth hwylus, symlach’
Wrth lansio’r gwasanaeth digidol cenedlaethol mewn meithrinfa yng Nghaerdydd, dywed Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, fod y cynnig yn gwneud “gwahaniaeth gwirioneddol” i rieni.
“Mae’n bleser gen i gyhoeddi lansio gwasanaeth digidol newydd y Cynnig Gofal Plant,” meddai.
“Bydd cael un system genedlaethol yn sicrhau gwasanaeth hwylus, symlach i rieni a darparwyr gofal plant ar draws Cymru.
“Dw i am ddiolch i bawb yn y sector gofal plant, awdurdodau lleol a rhieni sydd wedi ein helpu i gyflwyno’r gwasanaeth digidol.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd sy’n gweithio gyda chostau gofal plant, ac mae’n wych gallu cynyddu nifer y teuluoedd sy’n manteisio ar y Cynnig.
“Dw i’n falch o ddweud bod dros 168 o deuluoedd ychwanegol hyd yma wedi cael eu helpu yn sgil ehangu’r Cynnig.
“Mae rhoi rhagor o gymorth gyda chostau gofal plant i rieni sy’n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant yn adlewyrchu’r gwerth rydyn ni’n ei roi ar gefnogi pobl i wella eu cyfleoedd gwaith drwy ennill cymwysterau, ailhyfforddi neu newid llwybr gyrfa.”
Bydd rhieni sy’n gymwys i ddefnyddio’r Cynnig Gofal Plant o fis Ionawr 2023 yn gallu gwneud cais drwy’r gwasanaeth newydd.
Does dim angen i rieni sydd eisoes yn defnyddio’r cynnig wneud dim, ac fe fyddan nhw’n aros o fewn system eu hawdurdod lleol.
Ond os ydyn nhw am gael arian drwy’r cynnig am blentyn arall o fis Ionawr 2023, bydd angen iddyn nhw wneud cais drwy’r gwasanaeth digidol cenedlaethol.