Ar y diwrnod pan fydd Liz Saville Roberts yn cyflwyno Bil newydd yn San Steffan, mae Plaid Cymru’n dadlau nad yw rhagor o lymder yn anochel, a bod yna “ffordd arall” ymlaen i’r economi.

Bydd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn cyflwyno’r Bil Comisiwn Diwygio Trethi heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 15), ddeuddydd cyn Datganiad Hydref y Canghellor.

Wrth rybuddio yn erbyn rhagor o lymder, bydd Plaid Cymru’n amlinellu eu cynlluniau i sefydlu comisiwn newydd i edrych ar ffyrdd amgen o godi arian cyhoeddus.

Yn ôl Liz Saville Roberts, mae Plaid Cymru’n gwrthbrofi “economeg ffug” Canghellorion Ceidwadol sy’n honni bod “rhaid i bobol gyffredin ddioddef trethi uwch a thoriadau i wasanaethau cyhoeddus, dim ond am nad oes dewis arall”, a bod “dewis gweithredu cydraddoldeb yn ddewis strategol sy’n seiliedig ar werthoedd gwleidyddol a moesol”.

Ymhlith y polisïau y bydd y comisiwn yn eu hystyried mae treth ffawdelw estynedig, trethu buddsoddiad, a dod â’r statws non-domicile i ben.

Mae naw aelod seneddol o chwe phlaid yn cefnogi’r Bil, gan gynnwys Alison Thewliss (SNP), Caroline Lucas (y Blaid Werdd), a Clive Lewis a Bell Ribeiro-Addy o’r Blaid Lafur.

‘Gwrthbrofi’r naratif’

“Dro ar ôl tro, mae’r economeg ffug o ‘gydbwyso’r llyfrau’ wedi cael ei gwthio gan Ganghellorion Ceidwadol,” meddai Liz Saville Roberts.

“Dywedir wrthym fod rhaid i bobol gyffredin ddioddef trethi uwch a thoriadau i wasanaethau cyhoeddus, dim ond am nad oes dewis arall.

“Heddiw, mae Plaid Cymru’n gwrthbrofi’r naratif yma.

“Dydy cyfnod newydd o ragor o lymder ddim yn anochel.

“Mae yna ffordd arall.

“Mae dewis gweithredu cydraddoldeb yn ddewis strategol sy’n ddibynnol ar werthoedd gwleidyddol a moesol.

“Y prynhawn yma, byddaf yn cyflwyno’r Bil Diwygio Trethi, fyddai’n sefydlu comisiwn i edrych ar ffyrdd tecach o godi trethi yn y Deyrnas Unedig.

“Byddai’r comisiwn yn archwilio sut i ymestyn cyfraddau Cyfraniadau Yswiriant Gwladol i incwm sy’n cael ei dderbyn drwy fuddsoddiadau.

“Gallai hynny godi £8.6bn yn rhagor bob blwyddyn.

“Gallai diwygio Yswiriant Gwladol fel bod cyfraniadau’n gyfartal i’r rhai sy’n ennill mwy, godi hyd at £19.7bn.

“Gallai dod â’r statws non-domicile i ben godi dros £3.2bn y flwyddyn.”

Trethu olew a nwy

“Mae’r arfer fyd-eang o drethu elw cwmnïau olew a nwy yn 70% – yn Norwy mae’n 78%,” meddai Liz Saville Roberts wedyn.

“Gallai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddewis rhoi sicrwydd i aelwydydd ar gyfer yr adeg pan ddaw pecynnau cymorth ynni i ben ym mis Ebrill.

“Byddai’r comisiwn hefyd yn edrych ar ffyrdd o wella ein system ddatganoli fel bod hynny’n gweithio i bob cenedl yn y Deyrnas Unedig.

“Gallai gosod ein bandiau treth incwm ein hunain mewn ffordd sy’n cydnabod pwy sy’n elwa ar ba fath o gyfoeth yng Nghymru ddarparu ffynhonnell fwy cynaliadwy o incwm ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

“Does dim diffyg cyfoeth yn y Deyrnas Unedig.

“Mae cyfoeth ariannol yr 1% o aelwydydd cyfoethocaf yn fwy na’r hyn sydd gan 80% o’r boblogaeth.

“Pan fo 34% o blant yng Nghymru’n byw mewn tlodi, mae hynny’n foesol ffiaidd.

“Efallai bod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig resymau dilys dros wrthod gwahanol ffyrdd o godi arian.

“Pe baen nhw’n hyderus o’u dadleuon eu hunain, bydden nhw’n cefnogi Bil Plaid Cymru heddiw.”