Mae Plaid Cymru’n rhybuddio y gallai diffyg atebion i’r argyfwng ynni wthio rhagor o bobol i dlodi, a bod angen mesurau fel insiwleiddio, buddsoddi yn y grid ac ynni cymunedol er mwyn gostwng biliau’n barhaol.
Mae Ben Lake, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu, wrth iddo anfon llythyr at Grant Shapps, Ysgrifennydd Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol San Steffan, a’r Canghellor Jeremy Hunt.
Yn ei lythyr, mae Aelod Plaid Cymru dros Geredigion yn dweud y byddai “torri buddsoddiad hirdymor nawr ddim ond yn trosglwyddo rhagor o faich i genedlaethau’r dyfodol”.
Mae’n galw am fesurau pellach hefyd, gan gynnwys ailosod cartrefi, a thalebau i fusnesau gael buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni.
Yn ôl pob tebyg, mae’r holl wariant cyfalaf yn destun adolygiad cyn Datganiad Hydref y Canghellor yfory (dydd Iau, Tachwedd 17), gyda’r nod o arbed miliynau o bunnoedd ar brosiectau isadeiledd.
Mae sefydliad economaidd y New Economics Foundation wedi amcangyfrif yn ddiweddar y byddai gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig £3.5bn yn llai dros gyfnod o chwe mis pe bai pob cartref yng Nghymru ac yn Lloegr wedi cael eu huwchraddio i EPC C, ac y byddai aelwydydd yn arbed £530 dros y flwyddyn nesaf.
Fe fu Plaid Cymru’n galw yr wythnos hon am sefydlu comisiwn diwygio trethi er mwyn dod o hyd i opsiynau amgenach na thorri cyllidebau, gan gynnwys ymestyn cyfraniadau Yswiriant Gwladol i incwm sy’n cael ei ennill drwy fuddsoddiadau, sicrhau bod cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn decach i bobol yn ôl yr hyn maen nhw’n ei ennill, ac ymestyn ac ôl-ddyddio’r dreth ffawdelw.
Llythyr Ben Lake
“Dw i’n cysylltu â chi cyn Cyllideb yr Hydref i’ch annog i sicrhau bod y cynllun economaidd yn cynnwys atebion hirdymor i fynd i’r afael â’r argyfwng ynni, ac wrth wneud hynny, gostwng costau biliau ynni yn barhaol,” meddai Ben Lake wrth agor ei lythyr.
“Fyddai methu â gwneud buddsoddiad hirdymor nawr ddim ond yn trosglwyddo rhagor o faich i genedlaethau’r dyfodol.
“O ystyried graddfa’r argyfwng rydym yn ei wynebu, mae hi’n hanfodol fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyflwyno atebion sy’n gostwng y defnydd o ynni.
“Fel y byddwch chi’n ymwybodol, mae aneffeithlonrwydd ein stoc dai yn golygu bod aelwydydd yn gwastraffu cannoedd o bunnoedd y flwyddyn ar ynni sy’n gadael ar unwaith drwy waliau, ffenestri a nenfydau gwyntog.
“Mae’r broblem hon yn arbennig o wael yng Nghymru o ystyried fod gennym ni rai o’r tai hynaf a lleiaf effeithlon yng ngorllewin Ewrop.
“Mae angen cefnogaeth ar fusnesau hefyd o ran mesurau effeithlonrwydd ynni fel y gallan nhw hefyd ostwng eu biliau ynni’n barhaol.
“Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi cyflwyno cynigion ar gyfer talebau ‘helpu i wyrddio’ sy’n werth £5,000 i fusnesau bach a chanolig eu gwario ar gynnyrch a gwasanaethau arbed ynni sy’n gymwys.
“Bydd cymorth uniongyrchol nawr i hwyluso gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn gwarchod busnesau rhag sioc ynni yn y dyfodol.”
Ynni adnewyddadwy
Wrth i’r llythyr fynd rhagddo, mae Ben Lake yn galw am ddefnyddio ffynonellau o ynni adnewyddadwy fel ateb posib i’r argyfwng ynni.
“Fodd bynnag, rhybuddiodd adroddiad diweddar gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar gapasiti’r grid yng Nghymru fod potensial ynni adnewyddadwy Cymru’n wynebu bygythiad o ganlyniad i ddiffyg arweiniad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar wella cysylltedd y grid,” meddai.
“Mae hi’n glir na all Cymru fanteisio’n llawn ar ein potensial am ynni adnewyddadwy heb fuddsoddiad strategol yn isadeiledd y grid.
“Mae yna botensial enfawr i adeiladu rhagor o isadeiledd cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar raddfa gymunedol ledled y Deyrnas Unedig, ac i’r twf hwn helpu i adeiladu system ynni fwy diogel a gwydn sy’n dod â manteision uniongyrchol i gymunedau lleol.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i 1GW o gapasiti trydan adnewyddadwy fod dan berchnogaeth leol yng Nghymru erbyn 2030.
“Fodd bynnag, mae cyfranogiad cymunedau yn y farchnad ynni wedi’i rwystro gan gostau gormodol a phroses reoleiddio anhylaw.
“Er mwyn gwneud busnesau ynni cymunedol newydd yn ddichonadwy, a fyddwch chi’n cyflwyno gwelliannau i’r Bil Ynni, sydd yn aros ar gyfer cam y Pwyllgor yn Nhŷ’r Arglwyddi, i ddarparu fframwaith i gefnogi twf cynlluniau ynni cymunedol, cynnig sicrwydd i gynhyrchwyr ynni bach o ran tariff sefydlog am werthu eu hynni a sefydlu mecanwaith cyflenwadau ynni lleol i alluogi cynlluniau cynhyrchu adnewyddwy cymunedol i werthu’n uniongyrchol i bobol leol?”