Mae pwyllgor Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi pleidleisio o blaid defnyddio’r enwau Cymraeg ‘Eryri’ a’r ‘Wyddfa’ wrth gyfathrebu yn Saesneg yn ogystal â’r Gymraeg.

Cafodd deiseb yn galw ar y Parc Cenedlaethol i ffurfioli’r defnydd o’r enwau Cymraeg ei llofnodi gan 5,000 o bobol a’i chyflwyno i’r Awdurdod fis Mehefin y llynedd.

Dechreuodd y ddeiseb yn sgil cynnig gan y Cynghorydd John Pughe Roberts i’r Awdurdod ollwng y defnydd o’r enwau Saesneg ‘Snowdon’ a ‘Snowdonia’.

Cafodd y cynnig ei wrthod ar y pryd gan fod Grŵp Tasg a Gorffen eisoes wedi’i sefydlu i graffu ar y defnydd o enwau lleoedd.

Cafodd Dr Dylan Foster Evans o Brifysgol Caerdydd ei gomisiynu gan y Grŵp Tasg a Gorffen i lunio cyfres o egwyddorion i’w defnyddio fel canllaw ar gyfer ymdrin ag enwau yn y Parc, a bydd yr egwyddorion yn cael eu defnyddio gan yr Awdurdod i gysoni’r ffordd maen nhw’n ymdrin ag enwau lleoedd.

Mae’r Parc eisoes wedi dechrau defnyddio’r enwau Cymraeg mewn brawddegau Saesneg ers rhai blynyddoedd, gyda chydnabyddiaeth i’r Saesneg mewn cromfachau.

Bydd y Parc yn symud tuag at ddefnyddio’r enwau Cymraeg ym mhob cyd-destun dros amser, gan roi cyfle i bawb ymgynefino â’r arfer newydd.

Fe fydd rhai sefyllfaoedd lle y bydd rhaid parhau i roi’r Saesneg mewn cromfachau am y tro, megis ar wefannau er mwyn caniatáu i bobol ddod o hyd i’r hyn maen nhw’n chwilio amdano ar-lein.

‘Cyfle i ymgysylltu â’r iaith’

Dywed Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, y bydd y newid er “budd dyfodol yr iaith Gymraeg a pharch i’n treftadaeth ddiwylliannol”.

Erbyn hyn mae nifer o gyrff cyhoeddus ledled Cymru’n arddel yr enw Cymraeg a Saesneg, neu’r Gymraeg yn unig, wrth gyfeirio at yr Wyddfa ac Eryri, ac felly hefyd nifer o’r gweisg Saesneg a chwmnïau ffilmio prif ffrwd,” meddai.

“Mae hyn yn hynod galonogol, ac yn rhoi hyder i ni y bydd y newid hwn yn ein hymdriniaeth ni â’r enwau yn cael ei derbyn er budd dyfodol yr iaith Gymraeg a pharch i’n treftadaeth ddiwylliannol.

“Mae gennym enwau hanesyddol yn y ddwy iaith, ond rydym hefyd yn awyddus i ystyried y neges rydym am ei chyfleu am enwau lleoedd, a’r rôl y byddant yn ei chwarae yn ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoes drwy hyrwyddo’r iaith Gymraeg fel un o rinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol.

“Mae pwrpasau’r Parciau Cenedlaethol yn dynodi’r angen i ni warchod a gwella ein treftadaeth ddiwylliannol a rhoi cyfle i bobol ddysgu am a mwynhau’r rhinweddau arbennig.

“Trwy arddel yr enwau Cymraeg ar ein nodweddion tirweddol mwyaf nodedig rydym yn rhoi cyfle i bobol o bob cwr o’r byd ymgysylltu â’r iaith Gymraeg a’i diwylliant cyfoethog”.

 

Yr Wyddfa ac Uluru – galw am gefnu ar enw Saesneg mynydd uchaf Cymru

Iolo Jones

Cynghorydd sir yn cyfeirio at Awstralia wrth gynnig ei ddadleuon