Mae cannoedd wedi llofnodi deiseb yn galw am gefnu ar enw Saesneg yr Wyddfa.
Lansiwyd y ddeiseb brynhawn dydd Mercher, ac roedd dros 800 wedi ei harwyddo erbyn diwedd bore dydd Iau.
Daw hyn oll yn sgil cyfarfod gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, lle rhoddwyd ystyriaeth i gynnig gan yr aelod, John Pughe Roberts.
Mae yntau am i’r Parc rhoi’r gorau i ddefnyddio Snowdon am yr Wyddfa, a Snowdonia National Park am Barc Cenedlaethol Eryri.
Gwrthodwyd ei gynnig, ond mae gweithgor eisoes wedi’i benodi gan yr Awdurdod i ystyried enwau lleoedd, a Seisnigeiddio enwau lleoedd, yn Eryri.
Y ddeiseb
Mae’r ddeiseb yn rhybuddio bod enwau Cymraeg dan fygythiad, ac y byddai cefnu ar Snowdon yn cryfhau statws yr iaith.
“Mae ymosodiadau tuag at yr Iaith Gymraeg wedi dod yn gyson iawn yn y blynyddoedd diwethaf, gydag enwau tai ac ardaloedd wedi cael eu newid o’r Gymraeg,” meddai.
“Mae defnyddio enw Yr Wyddfa yn lle Yr Wyddfa / Snowdon ac Eryri yn lle Eryri / Snowdonia yn rhoi y parch a’r statws i’r Gymraeg.
“Bysa defnyddio enw’r Wyddfa ac Eryri yn unig yn dangos pwysigrwydd y Gymraeg i ni fel bobl Cymru, ac yn newid barn bobl at yr iaith ac yn ei gwneud hi’n fwy weledol ac amlwg i bobl sy’n dod yma ar wyliau, ac i bobl sy’n byw yma nawr.”