Mae cynghorydd yng Ngwynedd wedi tynnu sylw at Uluru yn Awstralia wrth alw am gefnu ar Snowdon yn enw ar yr Wyddfa.

Fore heddiw, mi fydd aelodau Bwrdd Awdurdod Parc Eryri yn cyfarfod i drafod llu o faterion yn ymwneud â’r parc, gan gynnwys cynnig gan John Roberts.

Mae yntau’n aelod o’r bwrdd, ac yn Gynghorydd Sir yng Ngwynedd, ac mae am i’r awdurdod roi’r gorau i ddefnyddio’r enwau Saesneg Snowdon a Snowdonia National Park.

Wrth gynnig ei resymau dros gefnu ar yr enw Saesneg, mae’n tynnu sylw at y graig enwog yn Awstralia sydd bellach yn cael ei adnabod wrth ei enw brodorol.

“Mae’n rhaid i ni fel awdurdod arwain hyn,” meddai wrth golwg360.

“Rydym yn galw’r Wyddfa yn Snowdon. Pam ydym ni’n galw’r Wyddfa yn Snowdon? Wyddfa ydy hi wedi bod.

“Gadewch i ni ddefnyddio’r enw brodorol sef y Wyddfa a pheidio defnyddio Snowdon.

“Gawn ni barch i’r iaith. Gawn ni fwy o barch i’r awdurdod os wnawn ni hynny.

“Roedd y plant yn gwneud gwaith am Ayers Rock, a doedd dim sôn am Ayers Rock. Uluru oedden nhw’n sgwennu amdano fo.

“Mae’r wlad yn Awstralia wedi rhoi Uluru yn enw swyddogol i Ayers Rock.”

Mae John Roberts yn gobeithio y gall y cam danio newid ehangach, gyda Chymru gyfan yn cefnu ar yr enw Saesneg yn y pen draw.

Y cynnig

Bydd aelodau bwrdd Parc Cenedlaethol Eryri yn trafod y cynnig fore heddiw ac yn ôl y cynghorydd, mai allan nhw ei gefnogi, ei wrthwynebu, neu roi rhagor o ystyriaeth i’r mater.

Mae’r cynnig yn galw “bod yr Awdurdod o hyn ymlaen ddim ond yn defnyddio enw Cymraeg yr awdurdod a bod hynny yn berthnasol mewn unrhyw iaith sef “PARC CENEDLAETHOL ERYRI” a byth yn defnyddio ‘Snowdonia National Park’ eto.

“Yn yr un modd mewn perthynas â’r Wyddfa – h.y. byth yn ei galw’n ‘Snowdon’ eto.

Enwau

Mae’r enw Snowdon yn dod o’r Eingl-Sacsoneg ‘snow’ a ‘dun’ sef mynydd neu gaer yn yr eira. Y fersiwn cynharaf o’r gair ydy ‘Snawdune’ (1095).

Y gred yw bod yr enw Cymraeg yn ei hanfod yn golygu ‘man claddu’. Daw’r cofnod cyntaf o’r enw yn y drydedd ganrif ar ddeg.

Cafodd Uluru ei enwi yn Ayers Rock yn 1873 ar ôl Prif Ysgrifennydd Awstralia ar y pryd, Syr Henry Ayers.

Yn 1993, penderfynwyd y byddai’r enw brodorol ac enw Saesneg yn cael eu defnyddio ochr yn ochr – Ayers Rock / Uluru. Yn 2002, penderfynwyd mai Uluru fyddai’n dod yn gyntaf.