Mae colofnydd y Daily Mail wedi amddiffyn Boris Johnson, gan ddweud nad oes modd “disgwyl i’r prif weinidog fyw mewn sgip”.

Daw sylwadau Sarah Vine ar Radio 4 ar ôl i’r Blaid Lafur alw am ymchwiliad i’r awgrym mai rhoddion i’r Blaid Geidwadol sydd wedi talu am y gwaith o adnewyddu ei fflat.

Ychwanegodd nad ydy hi’n credu y dylai arian trethdalwyr dalu am waith o’r fath, ond fod angen trefniant “tryloyw” ar gyfer talu am waith adnewyddu.

Mae’r mater wedi codi ar ôl i Dominic Cummings, cyn-brif ymgynghorydd Boris Johnson, wneud sylwadau ynghylch cymorth rhoddwyr y blaid.

“Ynglŷn â’r holl beth am adnewyddu Rhif 10, ni ellir disgwyl i’r Prif Weinidog fyw mewn sgip,” meddai Sarah Vine wrth raglen Today fore heddiw (dydd Mercher, Ebrill 28).

“Mae’n rhaid iddo fyw i safon benodol, a’r broblem gyda’r holl bethau gwleidyddol fel hyn yw nad oes neb yn barod i wneud penderfyniadau anodd.

“Nid oes neb byth yn barod i ddweud: ‘Ylwch, mae’n rhaid gwneud gwaith cynnal a chadw ar yr adeilad yma, mae angen cael dodrefn parchus, rydyn ni angen cronfa sy’n talu am hynny, fe wnawn ni just gwneud hynny’.

Dywedodd Sarah Vine, sy’n wraig i Michael Gove, fod Boris Johnson yn “gweithio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, yn trio rhedeg y wlad, sy’n swydd eithaf anodd”.

“Os ydi e eisiau soffa binc yn lle un werdd, dw i’n meddwl bod hynny’n rywbeth hollol resymol i’w eisiau,” meddai.

Dywed y byddai sefydlu proses eglur a thryloyw er mwyn talu am waith adnewyddu yn gwneud y mater yn “glir, a syml iawn”.

Byddai’r agwedd yma’n golygu “na fyddai’n rhaid i fi fy ngŵr ganslo cyfarfodydd pwysig iawn gyda’r Gwasanaeth Iechyd yn ystod y prynhawn er mwyn mynd i ateb cwestiwn brys am lenni”, meddai.

Amau fod trosedd wedi digwydd

Yn y cyfamser, mae’r Comisiwn Etholiadol yn dweud bod “sail resymol” i amau fod trosedd wedi digwydd.

“Rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad â’r Blaid Geidwadol ers diwedd mis Mawrth, ac rydyn ni wedi ffurfio asesiad ar sail yr wybodaeth gawsom ni ganddyn nhw,” meddai llefarydd.

“Rydyn ni’n fodlon nawr fod sail resymol i amau fod trosedd neu droseddau wedi digwydd.

“Felly byddwn ni’n parhau â’r gwaith, fel ymchwiliad ffurfiol, er mwyn penderfynu ai dyna’r achos.

“Bydd yr ymchwiliad yn penderfynu a oedd unrhyw ran o’r gwariant yn ymwneud â’r gwaith yn 11 Downing Street yn disgyn o dan y broses sy’n cael ei rheoleiddio gan y Comisiwn, ac os cafodd y gwariant ei adrodd fel sy’n ofynnol.

“Byddwn ni’n rhoi diweddariad unwaith mae’r ymchwiliad wedi’i gwblhau. Ni fyddwn ni’n gwneud sylwadau pellach nes hynny.”

Gweinidog yn amddiffyn Boris Johnson wedi’r helynt am adnewyddu ei fflat

Liz Truss yn dweud y bydd prif weinidog Prydain yn egluro’n llawn sut y talodd e am y gwaith