Mae llys wedi clywed bod Ryan Giggs wedi taro ei gyn-gariad gyda’i ben yn fwriadol a’i rheoli drwy gydol eu perthynas.
Dywedodd yr erlynydd ei fod wedi ymosod ar Kate Greville pan oedd “mewn diod” ac mae wedi’i gyhuddo o achosi gwir niwed corfforol iddi yn ei gartref yn Worsley, Manceinion Fwyaf, ar 1 Tachwedd y llynedd.
Mae e hefyd wedi’i gyhuddo o ymosod ar ddynes yn ei hugeiniau yn yr un digwyddiad – y gred yw mai chwaer ei gyn-gariad yw’r ddynes dan sylw, sef Emma Greville.
Mae’r cyhuddiad o ymddygiad oedd yn rheoli drwy orfodaeth yn ymwneud â cham-drin oedd wedi para bron i dair blynedd, rhwng mis Rhagfyr 2017 a mis Tachwedd y llynedd.
Pledio’n ddieuog
Aeth Giggs gerbron ynadon Manceinion a Salford am y tro cyntaf wrth i’r tri chyhuddiad yn ei erbyn gael eu darllen, ac fe blediodd yn ddieuog.
Wrth amlinellu’r cyhuddiad o ymosodiad yn ystod y gwrandawiad byr, 13 munud o hyd, yn Llys Ynadon Manceinion, dywedodd yr erlynydd Andrea Griffiths: “Mae hynny’n ymosodiad domestig ar ei bartner ar y pryd, Kate Greville.
“Roedd yn cynnwys headbutt bwriadol iddi, wedi’i waethygu gan y cefndir o gam-drin domestig a’r ffaith ei fod mewn diod ar yr adeg benodol honno.”
Dywedodd yr erlynydd fod ymddygiad rheoli honedig Giggs wedi dechrau “fwy neu lai o ddechrau’r berthynas” ac yn cynnwys “bygwth trais ar sawl achlysur”, “cadw mewn cysylltiad di-baid” a “sicrhau ei bod yn aros mewn perthynas ag ef, gan ei ynysu oddi wrth ffrindiau a chydweithwyr”.
Cefndir
Fe wnaeth Kate Greville gyfarfod â Giggs pan oedd yn gweithio ar gysylltiadau cyhoeddus ar gyfer ei fenter busnes Gwesty Pêl-droed, gyferbyn â stadiwm Old Trafford Manchester United.
Ym mis Ebrill 2018 fe’i penodwyd yn bennaeth cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu ar gyfer GG Hospitality, y cwmni rheoli lletygarwch sy’n eiddo ar y cyd i Giggs a’i gyn-gydchwaraewr, Gary Neville.
Mae Giggs – wnaeth gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a phledio’n ddieuog – wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth, ac fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Manceinion ar Fai 26.
Ei amodau mechnïaeth yw na ddylai gysylltu â Kate nac Emma Greville, na mynd i unrhyw le y maen nhw ynddo.
Treuliodd Giggs ei yrfa gyfan gyda Manchester United, gan ymddangos yn y tîm cyntaf am y tro cyntaf yn 1991, ac fe wnaeth e adael y clwb ar ôl cyfnod fel is-hyfforddwr Louis Van Gaal.
Cafodd ei benodi’n rheolwr tîm cenedlaethol Cymru yn 2018.
Pan gafodd y cyhuddiadau troseddol yn ei erbyn eu cyhoeddi’r wythnos diwethaf, dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y byddai Robert Page yn arwain y tîm yn nhwrnament Ewro 2020.