Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Ryan Giggs, wedi ei gyhuddo o ymosod ar ddwy ddynes ac o “ymddygiad a oedd yn rheoli neu orfodi” (coercive or controlling behaviour”), meddai Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ymateb drwy ddatgan mai Robert Page fydd yng ngofal tîm Cymru yn yr Ewros yr Haf hwn.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron y bydd cyn-asgellwr Cymru yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Manceinion a Salford ddydd Mercher nesaf, Ebrill 28.

“Rydym wedi awdurdodi Heddlu Manceinion i gyhuddo Ryan Giggs o ymddygiad a oedd yn rheoli neu orfodi, ac o ymosod gan achosi niwed corfforol,” meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron.

“Mae cyhuddiad o ymosod drwy guro sy’n ymwneud ag ail ddynes hefyd wedi’i awdurdodi. Bydd Mr Giggs yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Manceinion a Salford ddydd Mercher 28 Ebrill.

“Fe wnaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron y penderfyniad i gyhuddo Mr Giggs ar ôl adolygu ffeil o dystiolaeth gan Heddlu Manceinion.”

Dau gyhuddiad o ymosod

Dywedodd Heddlu Manceinion fod Ryan Giggs wedi’i gyhuddo o ymosod gan achosi niwed corfforol i ddynes yn ei 30au ac ymosod ar ddynes yn ei 20au.

Mae’r ddau gyhuddiad o ymosod yn ymwneud â digwyddiad ar 1 Tachwedd y llynedd, sydd wedi digwydd – yn ôl yr hyn sy’n cael ei ddeall – yng nghartref Ryan Giggs yn Worsley ger Salford. Cafodd y fenyw hŷn ei thrin am anafiadau yn y fan a’r lle.

Mae’r BBC yn adrodd fod y cyhuddiad o ymddygiad a oedd yn rheoli neu orfodi yn ymwneud â chyfnod rhwng Rhagfyr 2017 a Thachwedd 2020.

Mae Ryan Giggs, 47, wedi ei ryddhau ar fechnïaeth cyn yr achos llys.

‘Deall difrifoldeb yr honiadau’

Mewn datganiad a gyhoeddwyd ddydd Gwener, dywedodd Ryan Giggs: “Mae gen i barch llawn at y broses gyfreithiol briodol ac rwy’n deall difrifoldeb yr honiadau.

“Byddaf yn pledio’n ddieuog yn y llys ac rwyf yn edrych ymlaen at glirio fy enw.”

Ychwanegodd: “Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i Robert Page, y staff hyfforddi, y chwaraewyr a’r cefnogwyr yn yr Ewros yr haf hwn.”

Ymateb y Gymdeithas Bêl-droed

Yn dilyn y penderfyniad i ddwyn cyhuddiadau yn erbyn Ryan Giggs, mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi datgan mai Robert Page fydd yng ngofal tîm Cymru yn yr Ewros yr Haf hwn.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi nodi penderfyniad Gwasasnaeth Erlyn y Goron o barhau gyda chyhuddo Ryan Giggs, Rheolwr Tîm Cenedlaethol Dynion Cymru,” meddai’r Gymdeithas mewn datganiad.

“Yn sgil y penderfyniad yma, gall CBDC gadarnhau y bydd Robert Page yn rheoli Tîm Cenedlaethol Dynion Cymru ar gyfer twrnament EWRO 2020 yn yr haf, gyda chefnogaeth Albert Stuivenberg.

“Nawr bydd cyfarfod Bwrdd CBDC yn cael ei gynnal i drafod y sefyllfa a’i heffaith ar y Gymdeithas a’r Tîm Cenedlaethol.

“Ni fydd CBDC yn gwneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd.”