Mae Dafydd Gibbard wedi ei benodi yn Brif Weithredwr newydd ar Gyngor Gwynedd, yn dilyn cyfarfod llawn o’r cyngor heddiw (dydd Gwener, Ebrill 23).

Wedi ei fagu ym Mhwllheli gan fynychu ysgolion Cymerau a Glan y Môr, astudiodd Dafydd Gibbard ar gyfer gradd Gynllunio a Rheoli’r Amgylchedd yn y Coleg Normal ym Mangor, ac yna cymhwyso yn Syrfëwr Siartredig.

Mae wedi gweithio ym myd llywodraeth leol ers 1995 gan ddechrau ei yrfa gyda Chyngor Môn cyn symud i Gyngor Gwynedd yn 2003.

Bydd yn olynu Dilwyn Williams a gyhoeddodd ei fod yn camu o’r neilltu ym mis Ionawr.

Cyngor Gwynedd “ar seiliau cadarn iawn”

“Heb os, mae’r Cyngor ar seiliau cadarn iawn ac mae llawer o hynny yn dyst i ymdrechion Dilwyn Williams fel Prif Weithredwr,” meddai Dafydd Gibbard ar ôl cael ei benodi.

“Fy mwriad ydi ceisio adeiladu ar y gwaith yma, gan sicrhau fod y diwylliant o roi pobl Gwynedd yn ganolog i holl waith y Cyngor, yn parhau ac yn dwysau.

“Mi wn i fod gan y Cyngor weithlu hynod o ymroddedig ac mae hynny wedi ei amlygu fwy nag erioed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae ymdrechion rhyfeddol staff y Cyngor wedi sicrhau fod ein gwasanaethau allweddol yn parhau i fod ar gael i drigolion y sir pan maent wedi bod eu hangen fwyaf.

“Erbyn hyn, mae arwyddion cadarnhaol fod y pandemig Covid-19 yn sefydlogi a’n bod gobeithio gallu symud i gyfnod o adfer lle gallwn edrych ymlaen at rywfaint mwy o normalrwydd.

“Bydd y blynyddoedd nesaf yn cyflwyno sawl her i ni fel Cyngor.

“Ond rydw i’n gwybod fod y gwaith arloesol sydd wedi ei gyflawni i gynnal gwasanaethau drwy’r amseroedd anodd, yn golygu fod Gwynedd mewn lle da i gamu ymlaen yn hyderus i’r cyfnod nesaf yn ein hanes.”