Bydd sefyllfa ariannol anodd yn wynebu Llywodraeth nesaf Cymru, yn ôl ymchwil newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.

Mae pwysau ôl-bandemig a chynlluniau gwariant cyfredol llywodraeth y Deyrnas Unedig yn awgrymu y bydd rhaid i’r Llywodraeth nesaf wneud dewisiadau anodd a chyfaddawdu, yn ôl yr adroddiad.

Daw awduron yr adroddiad i’r casgliad y bydd gwariant, heb gynnwys costau covid, yn gwella i lefelau cyn y llymder yn 2021-22, ond ar sail mesur unigol bydd yn dal i fod 4% yn is nag yn 2010-11.

Mae disgwyl y bydd gwariant tu allan i’r Gwasanaeth Iechyd fod 12% yn is na’r lefelau cyn y llymder eleni.

Ymateb cyllidol Cymru yn “wahanol iawn” i’r un yn Lloegr

Mae’r ymchwilwyr hefyd yn manylu ar sut roedd ymateb cyllidol Llywodraeth Cymru i Covid-19 y llynedd yn wahanol iawn i ymateb llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Lloegr.

Roedd costau is ar gyfer offer diogelwch personol, a’r system profi ac olrhain yng Nghymru yn caniatáu mwy o gefnogaeth i fusnesau a chyllidebau llywodraeth leol, yn ogystal â golygu fod cyllid yn cael ei gario drosodd i 2021-22.

Er gwaethaf hyn, mae academyddion yn dod i’r casgliad bod heriau enfawr yn wynebu Llywodraeth nesaf Cymru wrth i gyllid Covid-19 ddod i ben.

Maen nhw’n dweud nad yw cynlluniau gwariant cyfredol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, y prif ffactor wrth bennu maint cyllideb Cymru, yn ymddangos yn ddigonol i ddiwallu’r anghenion y mae disgwyl i’r Gwasanaeth Iechyd a llywodraethau lleol eu hwynebu erbyn 2022-23.

“Rhagolwg heriol”

“Mae ein dadansoddiad yn datgelu rhagolwg heriol i’r blaid neu’r pleidiau a fydd yn ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru ac a ddylai fod yn rhybudd ar gyfer yr her o ddiwallu anghenion gwasanaethau cyhoeddus Cymru dros dymor nesaf y Senedd,” dywedodd Guto Ifan o Ganolfan Lywodraethiant Cymru.

“Tra bod tri Changhellor y Deyrnas Unedig yn olynol wedi cyhoeddi diwedd ar lymder, fe allai’r ychydig flynyddoedd nesaf deimlo’n debyg iawn i lymder i lawer o wasanaethau cyhoeddus Cymru yn seiliedig ar gynlluniau cyfredol llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Bydd gan Lywodraeth nesaf Cymru oddeutu £1 biliwn o gyllid i’w ddyrannu i’w hymateb i Covid-19 yn 2021-22, o ganlyniad i gyllid ychwanegol Covid-19 a chyllid a gariwyd ymlaen o’r llynedd. Ond ar hyn o bryd nid oes unrhyw gyllid Covid-19 arfaethedig ar ôl eleni.

“Wrth i ni wynebu rhagolwg cymharol lym ar gyfer y Senedd nesaf, mae angen i ni gael trafodaeth ddifrifol am drethi datganoledig Cymru,” meddai.

“Gallai cyfraddau treth incwm Cymru chwarae rhan bwysig wrth wynebu pwysau gwariant, ariannu gwasanaethau cyhoeddus gwell a lleddfu’r angen am godiadau atchwel (regressive) pellach yn lefelau Treth y Cyngor dros y blynyddoedd i ddod.”

Logo Gwasanaeth Iechyd Cymru

‘Bydd Covid-19 yn rhoi pwysau ariannol ar y gwasanaeth iechyd am flynyddoedd i ddod’

“Rhagolygon ar gyfer cyllideb Cymru yn rhai go llwm,” yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru

Awdurdodau lleol yn wynebu bwlch ariannu sylweddol y flwyddyn nesaf, yn ôl adroddiad newydd

Yn ôl y dadansoddiad, mae awdurdodau lleol yn wynebu bwlch ariannu o £178 miliwn yn 2022-23