Bydd awdurdodau lleol Cymru yn wynebu bwlch ariannu sylweddol flwyddyn nesaf, yn ôl adroddiad newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.

Dangosa’r ymchwil y bydd cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yn brin o’r hyn fydd ei angen i gwrdd â phwysau gwario dros dymor nesaf y Senedd, yn seiliedig ar gynlluniau gwariant presennol.

Yn ôl y dadansoddiad, mae awdurdodau lleol yn wynebu bwlch ariannu o £178 miliwn yn 2022-23, a diffyg o £132 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2023-24 a 2025-26.

Ond os bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu ailgyfeirio rhai o adnoddau’r gyllideb i ariannu costau effeithiau Covid-19 ar y Gwasanaeth Iechyd gallai’r rhagolygon ar gyfer yr awdurdodau lleol fod yn llawer gwaeth.

Mewn sefyllfa o’r fath, byddai awdurdodau lleol yn wynebu bwlch ariannu posibl o £607 miliwn y flwyddyn nesaf, a diffyg cyfartalog o £362 miliwn y flwyddyn dros y tair blynedd wedyn.

Eisoes, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi rhybuddio y bydd Covid-19 yn rhoi pwysau ar y gwasanaeth iechyd am flynyddoedd.

Mae’r adroddiad yn ystyried effeithiau demograffeg a chwyddiant, yn ogystal â chostau parhaus sy’n gysylltiedig â’r pandemig.

Daw i’r casgliad y bydd gwasanaethau cymdeithasol yn gyfrifol am 55% o holl wariant awdurdodau lleol erbyn 2025-26.

Yn ogystal â rhagweld pwysau gwario dros y blynyddoedd nesaf, mae’r adroddiad yn dadansoddi tueddiadau mewn cyllid llywodraeth leol dros y degawd diwethaf.

Tynna sylw at y ffaith fod gwariant awdurdodau lleol wedi cwympo 9.4% y pen rhwng 2009-10 a 2019-20, sy’n cyfateb i £220 y person.

Mae’r adroddiad hefyd yn canfod bod y Dreth Gyngor yn cyfrannu canran sylweddol uwch at yr hyn sy’n cael ei gasglu drwy drethi yng Nghymru (5.4%) o’i gymharu â Lloegr (4.3%) a’r Alban (3.8%).

“Cryfhau’r ddadl o blaid ailystyried y system drethu leol”

“Er bod mwy nag £1 biliwn wedi’i ddyrannu i awdurdodau lleol i’w helpu gyda’u hymateb i’r pandemig yn ystod 2020−21, o’r flwyddyn nesaf ymlaen bydd cynlluniau gwariant y llywodraeth yn fwy llym,” eglura Cian Siôn, ymchwilydd ar brosiect Dadansoddi Cyllid Cymru.

“Er y bydd y grant bloc yn tyfu mewn termau real dros y pum mlynedd nesaf, mae’r galw cynyddol am wasanaethau, gan gynnwys gofal cymdeithasol, a phwysau sylweddol yn sgil y pandemig yn golygu rhagolwg heriol ar gyfer cyllideb Cymru ac awdurdodau lleol.

“Bydd yr her hon yn dechrau ar unwaith gyda bwlch ariannu sylweddol y flwyddyn nesaf, yn seiliedig ar gynlluniau gwariant presennol Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae ein dadansoddiad yn awgrymu y bydd cynnydd yn y Dreth Gyngor yn debygol o barhau yn uwch na chwyddiant dros y blynyddoedd nesaf,” ychwanega Cian Siôn.

“Yn ein model, rydym yn tybio [y bydd] cynnydd blynyddol o 4.5% rhwng 2022−23 a 2025−26, a dydy hynny hyd yn oed ddim yn ddigon i ateb y pwysau ariannol yn llawn.

“Mae hyn yn cryfhau’r ddadl o blaid ailystyried y ffordd y mae’r system drethu leol yn gweithredu yng Nghymru.

“Go brin fod unrhyw bolisi sy’n ddibynnol ar gynnydd blynyddol uwch-na-chwyddiant i’r Dreth Gyngor yn ffordd gynaliadwy o ariannu awdurdodau lleol yn y tymor hir.”