Mae ystadegau cynnar yn dangos bod miloedd o bobol ifanc 16 ac 17 oed heb gofrestru i bleidleisio ar gyfer etholiad y Senedd fis nesaf.
Dangosa’r ystadegau, sydd wedi’u casglu gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol ar draws chwe awdurdod lleol, bod “loteri cod post” yn effeithio ar nifer y rhai sydd wedi cofrestru.
Amcangyfrifir bod 33% o bobol 16 ac 17 oed wedi cofrestru yn Abertawe, tra bod y ganran yn 65% ym Mro Morgannwg.
Gyda thua 70,000 o bobol ifanc 16 ac 17 oed yn gymwys i bleidleisio yn etholiad y Senedd ar Fai 6 mae ymgyrchwyr yn annog pobol ifanc i gofrestru cyn y dyddiad cau ddydd Llun (Ebrill 19).
Dyma’r tro cyntaf i bobol 16 ac 17 oed, a phobol o dramor, gael pleidleisio yn etholiad y Senedd.
Dylai fod yn “ddigwyddiad hanesyddol”
“Mae’r amcangyfrifon yn cadarnhau ofnau na fydd miloedd o bobol 16 ac 17 oed yn cael dweud eu dweud ar Fai 6,” meddai Jess Blair, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yng Nghymru.
“Mae etholiad y Senedd yn cynrychioli cyfle anferth i bobol ifanc gael dweud eu dweud ar ystod o faterion sy’n eu heffeithio nhw, gan gynnwys addysg, iechyd, a’r economi.
“Dylai rhoi’r bleidlais i bobol 16 ac 17 oed fod yn ddigwyddiad hanesyddol i Gymru, ond i hynny ddigwydd mae’n rhaid iddynt gofrestru a phleidleisio.
“Dylai pawb yng Nghymru sydd dros 16 oed gofrestru, a phleidleisio mewn ychydig o wythnosau.
“Mae angen i awdurdodau lleol wneud popeth posib yn yr wythnos olaf yma i gau’r bwlch mewn cofrestru, a sicrhau bod llais Cymru gyfan yn cael ei glywed ar Fai 6.
“Yn ogystal, mae angen i Lywodraeth Cymru stopio’r loteri cod post drwy ddefnyddio eu pwerau i sicrhau fod pobol yn cael eu cofrestru yn awtomatig.
“Mae pleidleisio yn hawl, ac ni ddylai pobol orfod dweud eu bod nhw am ddefnyddio’r hawl, na chael eu dal mewn biwrocratiaeth yn ystod pob etholiad.
“Beth am ddod â’r system i’r unfed-ganrif-ar-ugain fel bod pawb yn gallu defnyddio eu llais.”
“Angen clywed lleisiau pobol ifanc”
“Mi fydda i’n pleidleisio am y tro cyntaf – a dw i’n pleidleisio am y tro cyntaf oherwydd fy mod i’n credu bod angen clywed lleisiau pobol ifanc,” meddai Sophie o bentref Nelson, ger Pontypridd.
“Pe bai pob person ifanc gofrestru i bleidleisio cyn Ebrill 19, byddai’r gwleidyddion yn gwrando arnom a byddai pethau yn newid.
“Ewch i gofrestru i bleidleisio er mwyn gwneud gwahaniaeth.”
Cafodd yr ystadegau eu casglu gan bob awdurdod lleol rhwng Ebrill 7 ac Ebrill 13 2021.