Mae Plaid Cymru wedi amlinellu ei gweledigaeth i greu “cymdogaethau 20 munud” ymhob tref a dinas.

Byddai hyn yn golygu darparu mynediad cyfleus a diogel i gerddwyr allu ymweld â gwasanaethau gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, siopau, ysgolion, parciau, a gweithgareddau cymdeithasol.

“Lleoedd gwyrdd gerllaw”

Dywedodd Heledd Fychan, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Pontypridd a Chanol De Cymru yn etholiad y Senedd, y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio i sicrhau bod man gwyrdd o ansawdd da o fewn pum munud o gerdded i bob cartref yng Nghymru.

“Trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, mae llawer o bobol wedi bod yn cerdded, beicio, a rhedeg llawer mwy yn eu parciau lleol ond nid yw pawb yn ddigon ffodus i gael lleoedd gwyrdd gerllaw,” meddai’r Cynghorydd Heledd Fychan.

“Mae ffigurau’n dangos, ar ddechrau’r pandemig, bod tua 33,000 o gartrefi yng Nghymru heb fynediad i ofod awyr agored preifat.

“Y pellter cyfartalog rhwng lle mae pobl yn byw a pharc cyhoeddus neu ardd yw 432 metr. Byddai llywodraeth Plaid Cymru eisiau torri hyn i tua 370 metr – dim mwy na phum munud o gerdded – gan sicrhau y darperir man gwyrdd o ansawdd da o fewn cyrraedd pob cartref.

“Mae’n syniad sydd eisoes wedi’i gefnogi gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n dweud na ddylai mynediad i fannau gwyrdd fod yn loteri cod post ond yn “hawl i bawb.”

“Byddai hyn yn rhan o weledigaeth ehangach llywodraeth Plaid Cymru i greu cymdogaethau 20 munud ym mhob tref a dinas gan ddarparu mynediad cyfleus a diogel i gerddwyr i’r lleoedd y mae angen i bobl fynd a’r gwasanaethau maen nhw’n eu defnyddio bron bob dydd.

“Mae’r rhain yn cynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, siopau, ysgolion, parciau a gweithgareddau cymdeithasol, ac yn archwilio’r potensial ar gyfer llwybrau beicio pellter hirach ar hyd rhwydweithiau ffyrdd o ganolfannau rhanbarthol sydd â thraffig cymudwyr sylweddol fel Aberystwyth, Bangor, Merthyr a Pontypridd.”