Mae wyth o bobl wedi eu saethu’n farw yn Indianapolis yn yr Unol Daleithiau gan ddyn arfog oedd wedi lladd ei hun yn dilyn yr ymosodiad, meddai’r heddlu.

Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau o saethu yn un o leoliadau cwmni FedEx ger y maes awyr yn hwyr nos Iau. Mae’n debyg bod nifer o bobl eraill wedi’u hanafu yn y digwyddiad ac wedi’u cludo i’r ysbyty. Mae un person mewn cyflwr difrifol.

Dywedodd llefarydd ar ran heddlu Indianapolis, Genae Cook, bod wyth o bobl wedi cael eu saethu. Ychwanegodd bod y dyn arfog wedi marw ac nad ydyn nhw’n credu bod perygl i’r cyhoedd.

Mae cwmni FedEx wedi dweud eu bod yn cydweithredu gyda’r awdurdodau ac yn ceisio cael rhagor o wybodaeth.

“Ry’n ni’n ymwybodol o’r digwyddiad trasig yn ein swyddfa FedEx ger maes awyr Indianapolis. Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth ac mae ein meddyliau gyda’r rhai hynny sydd wedi’u heffeithio,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.