Mae heddlu Chicago yn yr Unol Daleithiau wedi rhyddhau lluniau camerau heddlu yn dangos swyddog yn saethu bachgen 13 oed.

Mae’r fideo ‘bodycam’ yn dangos y plismon yn gweiddi ar Adam Toledo i ollwng ei arf cyn cael ei saethu yn ei frest ar Fawrth 29.

Nid yw’n ymddangos bod y bachgen yn cario arf pan gafodd ei saethu ond mae’r fideo yn dangos gwn ger y safle lle disgynnodd.

Cafodd rhai protestiadau eu cynnal nos Iau (Ebrill 15) yn ardal Chicago, oriau’n unig ar ôl i faer y ddinas apelio ar bobl i bwyllo.

Daw cyhoeddiad y fideo ar ôl i Daunte Wright gael ei saethu’n farw ar Ebrill 11 gan swyddog yr heddlu yn Minneapolis. Mae’r digwyddiad hwnnw wedi arwain ar nifer o brotestiadau treisgar wrth i’r ddinas gynnal achos llys Derek Chauvin, y swyddog sydd wedi’i gyhuddo o achosi marwolaeth George Floyd.

Yn ôl erlynwyr roedd Adam Toledo gyda dyn 21 oed Ruben Roman oedd wedi tanio gwn at gar oedd yn gyrru heibio. Roedd hynny wedi arwain yr heddlu at y safle.

Roedd Swyddfa Sifil Atebolrwydd yr Heddlu wedi rhyddhau’r fideo ddydd Iau ynghyd a fideo CCTV ac adroddiadau am y digwyddiad.