Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn lansio eu hymgyrch etholiadol gydag addewid i roi “adferiad yn gyntaf”.

Mae disgwyl i’r arweinydd Jane Dodds addo y bydd pob un polisi a gyhoeddir gan y blaid yn rhoi adferiad yn gyntaf ac y byddai gwneud unrhyw beth arall yn “ffôl”.

Yn y lansiad mae disgwyl iddi ddweud: “Mae angen adferiad ar Gymru – adferiad economaidd, adferiad amgylcheddol ac adferiad gofalgar.

“Mae Cymru ar drobwynt a nawr yw’r amser i benderfynu sut rydyn ni’n symud ymlaen o Covid a sut rydyn ni eisiau i Gymru edrych mewn pum mlynedd.

“Dyna pam rydyn ni eisiau rhoi adferiad yn gyntaf. Byddai blaenoriaethu unrhyw beth arall yn ffôl.”

Mae’r blaid yn addo:

  • Sicrhau adferiad economaidd.
  • Blaenoriaethu adferiad amgylcheddol.
  • Sicrhau adferiad gofalus.

Y llywodraeth nesaf yn wynebu ‘heriau enfawr’

Mae disgwyl i Jane Dodds ddweud bod y llywodraeth nesaf yn wynebu “heriau enfawr”.

Bydd h’n dweud: “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd a bywyd fel y gwyddom wedi newid, ond rwy’n gwybod bod Cymru’n wlad wydn ac mae gennym gyfle i adeiladu gwell dyfodol i’n plant a phlant ein plant.

“Gyda pholisïau uchelgeisiol a llawn gyraeddadwy yn amrywio o adeiladu 30,000 o gartrefi newydd, i fuddsoddi yn ein strydoedd mawr, a rhewi’r ardrethi busnes sy’n effeithio cynifer o gwmnïau bach a chanolig, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cyflwyno opsiynau radical ond realistig ar gyfer dyfodol Cymru.

“Ni all Cymru fforddio i unrhyw blaid nac unrhyw lywodraeth roi unrhyw beth heblaw ein hadferiad yn gyntaf.

“Dyna’n union fydd pleidlais i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru.”

Polisïau

Ymhlith y polisïau ym maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru mae:

  • Gwario £1bn y flwyddyn i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
  • Buddsoddiad o £500m yn strydoedd mawr, trefi a chanol dinasoedd Cymru.
  • Cymryd ymagwedd drawsbleidiol tuag at iechyd meddwl a lles o ysgolion i wasanaethau cymunedol a chynyddu gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl.
  • Adeiladu 30,000 o dai cymdeithasol.
  • Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobol dan 25 oed.
  • Buddsoddiad mewn iechyd meddwl yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn nes iddo gyrraedd 13% o holl wariant y GIG erbyn 2028.
  • Buddsoddi mewn Cyfrifon Dysgu Personol i alluogi pobl i wella eu sgiliau ac ailhyfforddi.
  • Deddf Aer Glân, ynghyd ag ymrwymiad i wario 10% o’r gyllideb drafnidiaeth ar deithio llesol.
  • Sicrhau bod gan o leiaf 90% o gartrefi a busnesau yng Nghymru fynediad i fand eang ffeibr llawn yn ystod y pum mlynedd nesaf.
  • Ymrwymo i roi terfyn ar ddigartrefedd, drwy fabwysiadu ystod eang o bolisïau gan gynnwys cynyddu’r Grant Cymorth Tai.
  • Pasio Deddf Addysg Gymraeg i Bawb, gan normaleiddio’r Gymraeg mewn addysg.
  • Sicrhau nad yw unrhyw gynllun ariannu ar gyfer ffermio yn y dyfodol yn rhoi ceiniog yn llai i ffermio ac amaethyddiaeth.