Mae adroddiad wedi dod i’r casgliad bod y Swyddfa Gartref yn gyfrifol am “fethiannau sylfaenol” yn y modd yr oedd ceiswyr lloches wedi cael eu cadw mewn dau wersyll milwrol.

Roedd dau arolygydd wedi cyhoeddi eu casgliadau am yr amodau yng ngwersyll milwrol Penalun yn Sir Benfro a Barics Napier yng Nghaint fis diwethaf.

Ond mae adroddiad llawn wedi cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Ebrill 16).

Roedd y ddau safle wedi cael eu defnyddio i gadw cannoedd o geiswyr lloches ers mis Medi, er gwaetha rhybudd i’r Swyddfa Gartref bod y safleoedd yn anaddas.

Clywodd yr Uchel Lys yr wythnos hon bod barics Napier yn “anniogel” gyda chwe cheisiwr lloches oedd wedi aros yno yn dweud bod yr amodau yn “warthus”. Mae cyfreithwyr ar ran y chwech yn dadlau bod cadw’r ceiswyr lloches yn y barics yn groes i’w hawliau dynol.

Roedd bron i 200 o bobl wedi cael prawf positif am y coronafeirws yn y barics ym mis Ionawr a Chwefror.

Cafodd yr adroddiad ei ryddhau gan y Prif Arolygydd Annibynnol ar Ffiniau a Mewnfudo (ICIBI) ac Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi (HMIP) ddydd Iau ar ôl i asiantaeth newyddion PA wneud ceisiadau i weld y ddogfen yn ystod y gwrandawiad deuddydd.

Dywedodd yr adroddiad bod “methiannau sylfaenol yn yr arweinyddiaeth a chynllunio gan y Swyddfa Gartref oedd wedi arwain at ddiffygion peryglus yn natur y llety a phrofiadau gwael i’r preswylwyr”.

Yn ôl yr adroddiad “anaml iawn” oedd staff yr adran yn bresennol ar y ddau safle ac nad oedd gan y rheolwyr “y profiad na’r sgiliau i redeg lleoliad ar raddfa fawr”.

Dywedodd yr arolygwyr bod y sefyllfa ychydig yn well ym Mhenalun, ond bod y ddau safle wedi cael eu hagor cyn i argymhellion gael eu cwblhau.

Mae’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel a’r gweinidog mewnfudo Chris Philp wedi amddiffyn y defnydd o safleoedd o’r fath, er i’r Swyddfa Gartref wynebu beirniadaeth lem am y penderfyniad.

Fe fydd y barnwr Mr Ustus Linden yn cyhoeddi ei ddyfarniad ar ddyddiad sydd eto i’w bennu.