Mae pennaeth cwmni teithiau mwyaf Ewrop wedi dweud ei fod yn “optimistaidd” y gellir achub tymor gwyliau’r haf gyda rhaglenni brechu llwyddiannus.
Mewn cyfweliad â’r BBC, dywedodd Prif Weithredwr y Tui Group, Friedrich Joussen, fod archebion ym mis Mawrth wedi taro 2.8 miliwn, gyda’r cwmni’n disgwyl gweithredu hyd at 75% o’i amserlen arferol ar gyfer tymor yr haf.
Bydd Prydeinwyr yn cael teithio dramor ar gyfer gwyliau o 17 Mai ymlaen, dan gynlluniau Llywodraeth San Steffan i leddfu cyfyngiadau’r coronafeirws.
Wrth gyfeirio at lwyddiant rhaglenni brechu gwledydd Prydain, yr Unol Daleithiau ac Ewrop, dywedodd Friedrich Joussen:
“Rydym yn dal yn hyderus y cawn haf go-lew.
“Mae’r holl gyngor meddygol rydyn ni’n ei gael fel cwmni yn dweud bod y brechlynnau presennol yn gweithio gydag amrywiolion presennol [o covid].
“Nawr efallai eu bod yn llai effeithlon weithiau, ond mae’n dal i fod yn llawer gwell na pheidio â chael eich brechu.”
Ychwanegodd ei fod yn credu y byddai canlyniad prawf negyddol yr un mor effeithiol â phasbort brechlyn wrth atal lledaeniad y feirws, er iddo gyfaddef y byddai angen i’r profion fod yn rhatach er mwyn i’r strategaeth fod yn llwyddiannus.