Mae ymgyrchwyr iaith yn honni bod Cymwysterau Cymru yn “cyfaddef eu bod yn bwriadu cadw ac ail-frandio cymhwyster TGAU Cymraeg ail iaith” er gwaethaf ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i gyflwyno un continwwm o ddysgu’r Gymraeg.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae’n “rhaid cael gwared ar Gymraeg ail iaith a sefydlu un llwybr dysgu go-iawn – un continwwm, un cymhwyster, a’r un cyfle i bawb”.
Mae’r ymgyrchwyr yn dadlau nad ydy astudio Cymraeg Ail Iaith yn galluogi disgyblion i ddod yn rhugl, a bod angen i holl ddisgyblion TGAU fod yn astudio un math o TGAU fydd yn sicrhau eu bod yn medru’r Gymraeg.
Ac mae Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau Cymru yn cydnabod na fydd y drefn newydd yn plesio pawb.
“Gwyddom y bydd ein cynnig, ym marn rhai pobol, yn rhy debyg i’r dull sydd ar waith ar hyn o bryd, ac y gellid ei ystyried fel Cymraeg Ail Iaith ag enw arall,” meddai Emyr George.
Er hynny, mae Cymwysterau Cymru yn dweud bod eu cymwysterau yn ategu a chefnogi’r continwwm, “sydd yn gosod disgwyliadau gwahanol ar ddysgwyr mewn cyd-destunau Cymraeg a dwyieithog, a dysgwyr mewn cyd-destunau cyfrwng Saesneg.”
“Ar ôl ystyried y syniad yn ofalus, daethom i’r casgliad na fyddai’n bosibl ar hyn o bryd inni gynllunio un cymhwyster TGAU, neu unrhyw gymhwyster arall, a allai asesu pob dysgwr ym mhob cyd-destun mewn modd teg a dibynadwy,” meddai Cymwysterau Cymru.
“Rydym yn parhau i fod yn fodlon ystyried y posibilrwydd o gyflwyno un cymhwyster TGAU Cymraeg yn y dyfodol.”
Beirniadu Cymwysterau Cymru
“Nid yw safbwynt Cymwysterau Cymru yn gwneud unrhyw synnwyr: ar yr un llaw, maen nhw’n gwrthod hyd yn oed cynnwys yr opsiwn o gyflwyno un cymhwyster Cymraeg i bawb fel rhan o’u hymgynghoriad, gan fynnu y byddai eu cynlluniau newydd ar gyfer TGAU Cymraeg yn drawsnewidiol, tra ar y llaw arall maen nhw nawr yn cyfaddef mai eu bwriad, i bob pwrpas, yw cadw ac ail-frandio cymhwyster eilradd Cymraeg ail-iaith,” meddai Mabli Siriol, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
“Mae hyn yn dangos eu bod yn bwriadu parhau i amddifadu 80% o blant Cymru o’r rhodd o’r gallu i siarad Cymraeg er eu bod bellach yn derbyn ein dadl y byddai eu cynlluniau yn golygu parhad Cymraeg ail-iaith yn ein hysgolion.
“Mae Cymwysterau Cymru’n mynd ymlaen i ddweud y bydden nhw o bosib yn ystyried cyflwyno un cymhwyster Cymraeg rhywbryd yn y dyfodol, ond nad nawr, yn eu barn nhw, yw’r amser cywir i wneud hynny – ond nid ydyn nhw wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth addysgol yn awgrymu na ellir gwneud hyn nawr, gan yn hytrach gynnig ddim byd mwy na geiriau gwag.
“Os ydyn ni o ddifri am gyrraedd miliwn o siaradwyr a sicrhau bod pob disgybl yn cyflawni eu potensial ac yn siarad ein hiaith genedlaethol, rhaid cael gwared ar Gymraeg ail iaith a sefydlu un llwybr dysgu go iawn – un continwwm, un cymhwyster a’r un cyfle i bawb.”
“Ategu a chefnogi’r continwwm”
“Mae’r continwwm wedi’i sefydlu drwy’r ddeddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd fis Mawrth 2021,” meddai Cymwysterau Cymru.
“Diben y cymwysterau yw ategu a chefnogi’r continwwm hwn, sydd yn gosod disgwyliadau gwahanol ar ddysgwyr mewn cyd-destunau Cymraeg a dwyieithog, a dysgwyr mewn cyd-destunau cyfrwng Saesneg.
“Gwelir bod canllawiau’r cwricwlwm yn cynnwys dwy set o ddisgwyliadau mewn perthynas â’r cynnydd y disgwylir i ddysgwyr ei wneud wrth ddysgu’r Gymraeg – un set ar gyfer dysgwyr mewn cyd-destunau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, a’r llall ar gyfer dysgwyr mewn cyd-destunau cyfrwng Saesneg.
“Mae’r rhain yn adlewyrchu’r gwahaniaeth o ran pa mor gyflym y bydd dysgwyr yn meithrin eu gallu yn yr iaith, yn dibynnu ar ba un a ydynt yn cael mwyafrif eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg ynteu trwy gyfrwng y Saesneg.
“O ran cynllunio dull asesu, mae maint y gwahaniaethau rhwng disgwyliadau’r cwricwlwm ar gyfer dysgwyr mewn cyd-destunau cyfwng Saesneg ar y naill law, a’r disgwyliadau ar gyfer dysgwyr mewn cyd-destunau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar y llaw arall, yn rhy fawr i gael eu cwmpasu mewn un cymhwyster,” ychwanegodd Cymwysterau Cymru wrth esbonio pam na fyddai’n bosib “asesu pob dysgwr ym mhob cyd-destun mewn modd teg a dibynadwy”.
“Ymhellach, byddai’n annheg mynnu bod yn rhaid i bob dysgwr sefyll yr un cymhwyster, oherwydd yn nodweddiadol byddai dysgwyr mewn cyd-destunau cyfrwng Saesneg yn cael graddau is na’u cyfoedion mewn cyd-destunau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
“Byddai hyn yn arwain at ddatgymell a digalonni dysgwyr mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg.
“Ar ôl asesu effaith bosibl ein cynnig, rydym o’r farn y bydd, drwodd a thro, yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg.
“Golyga y bydd pob dysgwr yng Nghymru, ym mhob cyd-destun, yn cael mynediad at gymwysterau yn y Gymraeg – cymwysterau a fydd o’r un maint a’r un statws â’i gilydd ac a fydd yn adlewyrchu’n briodol y medrusrwydd a’r rhuglder y disgwylir i’r dysgwyr eu cyflawni.
“Mae ein hymgynghoriad ar yr ystod o bynciau a ddylai fod ar gael yn y dyfodol yn dod i ben heddiw (Ebrill 16), ac rydym yn annog sylwadau ynghylch ein cynigion ni.”