Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lambastio Cymwysterau Cymru, a hynny am eu bod nhw eisiau cadw TGAU Cymraeg ail iaith.

Yn ôl y mudiad, byddai Cymwysterau Cymru yn cadw’r cwrs yn hytrach na gwireddu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddileu’r cymhwyster a chyflwyno un continwwm addysg Gymraeg i bawb.

Byddai cadw’r cwrs yn “gwneud cam â chenhedlaeth arall o blant”, meddai Toni Schiavone, cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.

Bydd yr ymgynghoriad ar y mater yn dod i ben ddydd Gwener (Ebrill 16).

“Oni bai bod datblygu un continwwm o ddysgu Cymraeg yn arwain at drefn newydd o sicrhau dilyniant a pharhad yn y dysgu a’r addysgu, mesur cynnydd ac un cymhwyster cyfannol, bydd 80% o ddisgyblion Cymru yn parhau i gael eu hamddifadu o’r cyfle i fod yn ddwyieithog,” meddai Toni Schiavone.

“Nid bai’r disgyblion yw hynny ond diffyg cyfle cyfartal a threfn addysg sy’n gadael pobol ifanc i lawr.”

“Mae’r ystadegau’n tanlinellu’r angen am newid radical yn nhrefn dysgu ac asesu’r Gymraeg – ni fydd ail-frandio Cymraeg Ail Iaith fel yr argymhellir yng nghynigion Cymwysterau Cymru yn gwneud dim ond parhau’r anghyfiawnder presennol.”

‘Cam’

“Er gwaethaf ymrwymiad y Llywodraeth i gael gwared ar Gymraeg ail iaith a sefydlu un continwwm o ddysgu’r Gymraeg i bob disgybl fel bod pawb yn gallu dysgu Cymraeg, mae Cymwysterau Cymru – corff anetholedig – yn bwriadu cadw cymhwyster Cymraeg ail iaith eilradd a’i ail-frandio,” meddai Toni Schiavone wedyn.

“Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn fodlon ystyried yr opsiwn o greu un cymhwyster i bob disgybl, er gwaetha’r dystiolaeth gref dros wneud hynny.

“Mae blynyddoedd o arolygiadau Estyn, adroddiadau gan arbenigwyr a phrofiadau go iawn disgyblion ac athrawon ymhob cornel o’r wlad yn dangos bod Cymraeg ail iaith wedi methu.

“Byddai cynlluniau arfaethedig Cymwysterau Cymru yn gwneud cam â chenhedlaeth arall o blant ac yn parhau i amddifadu 80% o blant Cymru o’r gallu i siarad Cymraeg.

“Os ydyn ni o ddifri am gyrraedd miliwn o siaradwyr a sicrhau bod pob disgybl yn cyflawni eu potensial ac yn siarad ein hiaith genedlaethol, rhaid cael gwared ar Gymraeg ail iaith a sefydlu un llwybr dysgu go iawn – un continwwm, un cymhwyster a’r un cyfle i bawb.”

“Newid mawr i ysgolion, a cham pwysig”

Yn ôl Cymwysterau Cymru, eu cynnig yw dod â’r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith i ben a chreu cymhwyster TGAU newydd a mwy ar gyfer dysgwyr mewn cyd-destunau cyfrwng Saesneg.

Byddai’r cymhwyster yn “adlewyrchu’r disgwyliadau a nodir yng nghanllawiau’r cwricwlwm,” meddai Cymwysterau Cymru.

“Mae hyn yn ategu polisi Llywodraeth Cymru o sefydlu un continwwm ar gyfer addysgu a dysgu Cymraeg,” meddai Emyr George, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau.

“Bydd y cymhwyster TGAU newydd yn symud oddi wrth brofion yn ymwneud â chofio ymadroddion a geirfa, ac yn rhoi mwy o bwyslais ar allu’r dysgwyr i gyfathrebu’n effeithiol a sgwrsio’n ddigymell.

“Gan weithio gyda rhanddeiliaid, rydym wedi ystyried sawl opsiwn posibl ar gyfer dileu a disodli’r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith presennol,” meddai Emyr George.

“Rydym wedi llunio cynnig sy’n adeiladu ar gryfderau a llwyddiant y cymhwyster presennol, ac sy’n cynnig dewis teg i bob dysgwr ym mhob cyd-destun.

“Ni fydd y cymhwyster yn cael ei alw’n ‘Gymraeg Ail Iaith’, a hynny er mwyn adlewyrchu’r ffaith y bydd yn sylweddol wahanol i’r cymhwyster presennol. Bwriedir i’r cymhwyster fod yn gyfartal o ran maint i’r cymhwyster TGAU cyfunol newydd arfaethedig mewn llenyddiaeth ac iaith Gymraeg.

“Bydd hyn yn creu llwyfan cyfartal i bob dysgwr ym mhob cyd-destun,” pwysleisia.

Byddai’r cymhwyster yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddod yn fwy rhugl a medrus yn y pwnc, meddai Cymwysterau Cymru, ac yn helpu i wireddu nod polisi Llywodraeth Cymru o gynyddu cyfran y dysgwyr sy’n gadael yr ysgol yn ddefnyddwyr Cymraeg hyderus.

“Ar ôl ystyried y syniad yn ofalus, daethom i’r casgliad na fyddai’n bosibl ar hyn o bryd inni gynllunio un cymhwyster TGAU, neu unrhyw gymhwyster arall, a allai asesu pob dysgwr ym mhob cyd-destun mewn modd teg a dibynadwy,” ychwanega.

“Gwyddom y bydd ein cynnig, ym marn rhai pobol, yn rhy debyg i’r dull sydd ar waith ar hyn o bryd, ac y gellid ei ystyried fel Cymraeg Ail Iaith ag enw arall.

“Fodd bynnag, credwn y bydd yn newid mawr i ysgolion, ac yn gam pwysig tuag at helpu dysgwyr i ddod yn ddefnyddwyr Cymraeg hyderus. Rydym yn parhau i fod yn fodlon ystyried y posibilrwydd o gyflwyno un cymhwyster TGAU Cymraeg yn y dyfodol.”