Fe fydd aelodau Senedd Cymru yn ail-ymgynnull yn rhithiol heddiw (Dydd Llun, Ebrill 12) i dalu teyrnged i Ddug Caeredin.

Fe gyhoeddodd Palas Buckingham ddydd Gwener bod y dug wedi marw yn 99 oed.

Mae arweinwyr gwleidyddol ar draws Cymru wedi canmol y Tywysog Philip am ei ddegawdau o wasanaeth cyhoeddus, ac wedi estyn cydymdeimlad i’r Frenhines a’r teulu.

Mae baneri yn chwifio ar hanner mast ar holl adeiladau Llywodraeth Cymru a’r Senedd.

Mae llyfrau o gydymdeimlad wedi agor ar-lein ar gyfer y rhai hynny sydd eisiau rhoi teyrnged i’r Dug.

Fe fydd Aelodau Seneddol yn San Steffan ac aelodau Ty’r Arglwyddi yn cwrdd prynhawn ma i roi teyrngedau.

Dywedodd Elin Jones, Llywydd y Senedd: “Rhoddodd y tywysog flynyddoedd lawer o wasanaeth cyhoeddus.

“Roedd hyn yn cynnwys gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd a chreu Gwobr Dug Caeredin sydd wedi rhoi profiadau a chyfleoedd hanfodol i gannoedd o filoedd o bobl ifanc yng Nghymru a thu hwnt.

“Mae’r Senedd yn anfon ei chydymdeimlad.”

“Ymroddiad anhunanol”

Wrth siarad yn dilyn marwolaeth y Dug ddydd Gwener, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Gyda thristwch yr ydym yn galaru marwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin.

“Trwy gydol ei fywyd hir a nodedig, fe wasanaethodd y goron gydag ymroddiad anhunanol ac ysbryd hael.

“Rydym yn cydymdeimlo’n ddiffuant â’i Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, ei blant a’u teuluoedd ar yr achlysur trist hwn.

“Bydd colled fawr ar ei ôl gan y nifer fawr o sefydliadau a gefnogodd fel noddwr neu lywydd dros ddegawdau lawer o wasanaeth.”

Llawer o bobl ifanc “wedi elwa”

Anfonodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, ei gydymdeimlad â’r Frenhines a’i theulu ar ran y blaid.

“Am dros chwe degawd bydd llawer o bobl ifanc yng Nghymru wedi profi ac elwa o gynllun gwobrau Dug Caeredin, sy’n adlewyrchiad o ddegawdau lawer o wasanaeth cyhoeddus y Dug,” meddai.

“Mae fy meddyliau gyda’r Teulu Brenhinol ar yr adeg drist hon.”

“Bywyd rhyfeddol”

Mae Andrew RT Davies, arweinydd Ceidwadwyr Cymru, wedi talu teyrnged i “fywyd rhyfeddol” y Tywysog Philip.

“Cydwybodol, ymroddgar, a diwyd, ni welir ei debyg fyth eto, ac mae Ceidwadwyr Cymru yn cynnig eu cydymdeimlad dwysaf â’r Frenhines, a gweddill y Teulu Brenhinol.”

Dywedodd Simon Hart, ysgrifennydd gwladol Cymru ac AS Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, y byddai bywyd Philip yn “ysbrydoli cymaint ledled y byd”.

“Cafodd effaith hynod gadarnhaol ar filoedd o bobl o bob cenhedlaeth yng Nghymru,” meddai Simon Hart.

Dywedodd Archesgob Cymru, John Davies, fod y Dug wedi bod yn “graig” ym mywyd y Frenhines a’i fod wedi “aros wrth ei hochr” trwy gydol eu priodas.

Dywedodd y byddai “cariad a gweddïau” llawer o’r Eglwys yng Nghymru gyda’r Frenhines a’i theulu yn dilyn marwolaeth y dug.